John Jones (Ioan Tegid)

clerigwr a llenor
(Ailgyfeiriad o Ioan Tegid)

Bardd, orthograffydd a gweinidog oedd John Jones (10 Chwefror 17922 Mai 1852), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol "Tegid" neu "Ioan Tegid". Fe'i ganed ac fe'i magwyd yn Y Bala yn yr hen Sir Feirionnydd, (de Gwynedd erbyn hyn).[1]

John Jones
FfugenwIoan Tegid Edit this on Wikidata
Ganwyd10 Chwefror 1792 Edit this on Wikidata
y Bala Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 1852 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor, bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amA ballad by John Jones (Tegid), "Anffaeledigrwydd y Pab! Edit this on Wikidata
Baled bamffled o waith Ioan Tegid

Cefndir

golygu

Ganwyd Ioan tegid yn Llanycil, ar lan Llyn Tegid, oddi wrth yr hwn y cymerodd ei enw barddonol. Enw ei rieni oedd Henry Jones [2] a Catherine Jones. Roedd yn un o bedwar o blant:

Ardeb fy Mam

ARDEB fy mam, fwynfam fach,
Gwiw lun! ni bu ei glanach;
Mam ELEN, mam GWEN :-ei gwedd!
Rhifyr hwn, yn llun rhyfedd;
Mam fad Offeiriad y Ffydd,
A'r difyr Banker Dafydd.[3]


Addysg

golygu

Cafodd addysg dda yn ieuanc, (sydd yn awgrym bod ei deulu yn un weddol gefnog) Ym 1812 aeth i Gaerfyrddin, i ysgol y Parch. D. Peter, . Ym 1813 aeth i ysgol y Parch. D. Price, yn yr un dref, lle y bu 18 mis. Ym 1814 aeth i Goleg yr Iesu Rhydychen, lle cafodd gradd BA ym 1818. [4]

Ym 1819 cafodd ei ordeinio'n ddiacon yn Eglwys Lloegr cafodd ei urddo yn ddiacon ac offeiriad a'i benodi i gaplaniaeth Eglwys Crist, Rhydychen. Fei a benodwyd yn brif gantor yn Eglwys Crist ym 1823 a churadiaeth barhaus St Thomas yn yr un ddinas, lle y bu yn gweinidogaethu am 18 mlynedd. Yn Awst, 1841, penodwyd ef i ficeriaeth Nanhyfer, yn Sir Benfro; ac ym 1848 fe'i dyrchafwyd yn beriglor yn Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi.

Marwolaeth

golygu

Bu farw ym mhersondy Nanhyfer yn 61ain oed o'r dyfrglwyf (oedema) a'i gladdu yn eglwys ei blwyf[5]

Gwaith llenyddol

golygu

Ceisiai amddiffyn fersiwn o orgraff yr iaith Gymraeg a seiliwyd ar yr orgraff a ddysfeisiwyd gan William Owen Pughe. Golygodd gyfrol o waith y bardd canoloesol Lewys Glyn Cothi.[1]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Traethawd ar Gadwedigaeth yr Iaith Gymraeg (1820)
  • (gol.) gyda Gwallter Mechain, Gwaith Lewys Glyn Cothi (1837)
  • Gwaith Barddonawl (1859). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, gyda chofiant iddo gan ei nai Henry Roberts.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. Foster, Joseph. Alumni Oxonienses: The Members of the University of Oxford, 1715-1886, tud 767
  3. Gwaith Barddonawl tud 132
  4. Edward Davies (Iolo Meirion), Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion, Caernarfon 1870 Tud 73
  5. Roberts, Henry; Gwaith barddonawl y diweddar Barch. John Jones, M.A., (Ioan Tegid), Llundain 1859. Rhagymadrodd bywgraffiadol tud xx