Lewys Glyn Cothi
Bardd Cymraeg o'r 15g oedd Lewys Glyn Cothi (tua 1425 - tua 1490). Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a ganai'n rhwydd ac eglur ar sawl mesur.
Lewys Glyn Cothi | |
---|---|
Ganwyd | 1420 Llanybydder |
Bu farw | 1490 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1447 |
Bywgraffiad
golyguNi wyddys fawr dim am Lewys Glyn Cothi ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Arferid credu y cafodd ei enw barddol am iddo fod yn frodor o lannau afon Cothi yn Sir Gaerfyrddin, ond gwyddys erbyn hyn mai frodor o ardal ym mhlwyfi Llanybydder a Llanfihangel-rhos-y-corn, yn yr un sir, sy'n cynnwys fforest frenhinol Glyn Cothi, oedd ef. Ymddengys iddo gael ei eni yno yn y 1420au, efallai tua'r flwyddyn 1425. Gellir dyddio y gerdd olaf ganddo sydd ar glawr i fis Mawrth, 1489, ac felly gellir casglu iddo farw rywbryd yn y blynyddoedd ar ôl hynny, yn y 1490au yn ôl pob tebyg.[1]
Llywelyn oedd ei enw bedydd, ond defnyddiai'r bardd ei hun amryw ffurfiau ar 'Lewys' neu 'Lewis', e.e. Lewys Glyn Cothi (y ffurf amlach) a Lewys y Glyn. Ceir awgrym mewn un o'i lawysgrifau ei fod wedi gwasanaethu ym Mhriordy Caerfyrddin a'i fod wedi derbyn peth addysg yno. Medrai ysgrifennu - camp anghyffredin yn yr Oesoedd Canol - ac mae rhai o'i lawysgrifau wedi goroesi. Roedd yn Lladinwr da hefyd, awgrym arall ei fod wedi derbyn addysg yn y priordy, a fu'n enwog am ei sgriptoriwm.[1]
Credid ar un adeg iddo wasanaethu fel swyddog ym myddin Siasbar Tudur yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ond er y gellir derbyn, ar sail un o'i gerddi, iddo fod yn dyst i Frwydr Mortimer's Cross (1461) gyda meibion Gruffudd ap Nicolas, mae'n annhebygol iddo fod yn swyddog. Treuliodd gyfnod ar herw yn ardal Pumlumon ac, yn nes ymlaen, yn Eryri, ar ôl y frwydr dynghedfennol honno. Roedd yn gefnogwr brwd i achos y Lancastriaid ond canodd i rai o gefngowyr y Iorciaid yng Nghymru yn ogystal. Ond "mae'n amlwg hefyd fod buddiannau Cymru'n bwysicach yn ei olwg na llwyddiant unrhyw un o bleidiau Lloegr"[2] ac mae ei wladgarwch a'i gasineb o'r Saeson yn elfennau amlwg yn ei ganu. Dengys ei gerddi ei fod yn gyfarwydd â phob rhan o Gymru, o Fôn i Fynwy, yn llythrennol.
Cerddi
golyguCedwir 238 o awdlau a chywyddau gan Lewys Glyn Cothi yn y llawysgrifau. Mae'r rhain yn cynnwys naw o gerddi crefyddol, yn cynnwys awdl nodedig 'I Saint Cymru'. Canodd nifer o gerddi mawl a marwnadau i rai o wŷr amlycaf yr oes yng Nghymru. Roedd ei noddwyr yn cynnwys y Tuduriaid, sef Siasbar Tudur, Edmwnd Tudur, a Harri Tudur, Syr Rhys ap Tomas, a Gruffudd ap Nicolas. Canodd sawl cerdd darogan yn ogystal.[1]
Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, a hynny ers canrifoedd, yw 'Dychan Gwŷr Caer', sy'n seiledig ar brofiadau'r bardd yn y ddinas honno mewn cyfnod pan fu'r Cymry yn cael eu trin fel dinesyddion eilradd. Mae'n cynnwys rhai o'r cwpledi mwyaf miniog ym marddoniaeth Gymraeg. Er enghraifft:
Ni bu faer yng Nghaer anghywirach,
ni bu sersiant waeth na neb gaethach,
ni bu haid ddiawliaid ddelach - eu gwahodd,
ni bu ieir un fodd na brain feddwach,
na gwragedd Llundain garnbuteiniach,
na gwŷr un floneg garnfileiniach,
na meibion gweinion gwannach - yn eu cred,
na merched ar lled yn anlladach,
na llyffaint un fraint, na moch fryntach,
na chwain un lifrai, na chŵn lyfrach,
na phlasau cynddrwg, na ffalsach ddynion,
na thir fwy o ladron, na thref leidrach.[3]
Ymddiddorai'n fawr yn achau'r Cymry yn ogystal, ac mae ei lawysrifau yn cynnwys nodiadau achyddol a lluniau deniadol o arfbeisiau prif deuluoedd Cymru. Gellir ei ystyried felly yn un o herodwyr mawr y cyfnod yn ogystal.[1]
Un o'r cerddi mwyaf dirdynnol yn y Gymraeg ydyw ei gerdd i'w fab Sion a fu farw'n bump oed:
Un mab oedd degan i mi,
Dwynwen, gwae’i dad o’i eni!
Gwae a edid o gudab
i boeni mwy heb un mab.
Fy nwy ais, farw fy nisyn,
y sy’n glaf am Siôn y Glyn.
Udo fyth yr ydwyf i
am benaig Mabinogi.
Afal pêr ac aderyn
a garai’r gwas, a gro gwyn;
bwa o flaen y ddraenen,
cleddau digon brau o bren;
ofni’r bib, ofni’r bwbach,
ymbil â'i fam am y bêl fach...[4]
Llawysgrifau
golyguCeir casgliadau pwysig o waith y bardd yn llawysgrifau Peniarth, yn cynnwys llawysgrif Peniarth 109 yn ei law ei hun, Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Hergest ac yn llawysgrifau Llansteffan.[1]
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Gwaith Lewys Glyn Cothi, gol. Dafydd Johnston (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995). Y golygiad safonol o waith y bardd, gyda rhagymadrodd, nodiadau a geirfa.
- Gwaith Lewis Glyn Cothi: y Gyfrol Gyntaf, gol. E. D. Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Testun llawysgrif Peniarth 109 yn llaw y bardd ei hun, yn yr orgraff wreiddiol. (Ni chafwyd ail gyfrol).
- Anrhydeddus Cymdeithas y Cymmrodorion Gwaith Lewis Glyn Cothi: The Poetical Works of Lewis Glyn Cothi Rhydychen, 1837 (addasiad i e-lyfr gellir ei lawr lwytho yn ddi-dâl).
Cyfeiriadau
golyguBedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd