Gwladus Ddu

uchelwraig

Roedd Gwladus Ddu (enw llawn Gwladus ferch Llywelyn) (m. 1251) yn dywysoges Gymreig, yn ferch i Lywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd ac yn wraig i ddau o Arglwyddi'r Mers.

Gwladus Ddu
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1251, 1251 Edit this on Wikidata
Windsor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
TadLlywelyn Fawr Edit this on Wikidata
Mamy Dywysoges Siwan Edit this on Wikidata
PriodRalph de Mortimer, Reginald de Braose Edit this on Wikidata
PlantRoger Mortimer, Barwn 1af Mortimer, Isolt de Mortimer Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Niw yw'r ffynonellau'n cytuno ynglŷn â chyfreithlondeb Gwladus fel merch Llywelyn gan ei wraig Siwan. Yn ôl rhai ffynonellau roedd hi'n ferch perth a llwyn gan Tangwystl Goch. Fodd bynnag, mae'r ffaith fod Siwan wedi gadael cyfran helaeth o'i thir i Wladus yn awgrymu ei bod yn ferch gyfreithlon iddi.

Fel rhan o bolisi ei thad o gynghreirio ag arglwyddi grymus y Mers i wrthsefyll coron Lloegr, priodwyd Gwladus Ddu â Reginald de Braose, Arglwydd Brycheiniog, tua'r flwyddyn 1215, ond does dim cofnod iddyn nhw gael plant. Bu farw Reginald ym 1228. Mae'n bosibl mai Gwladus Ddu yw'r 'chwaer' a gofnodir yng nghwmni Dafydd ap Llywelyn ar ei ymweliad â'r llys yn Llundain yn 1229.

Priododd yr ail waith â Ralph Mortimer, Arglwydd Wigmor, Swydd Henffordd, tua'r flwyddyn 1230. Cawsant bedwar mab, sef Roger, Hugh, John a Peter. Bu farw Ralph yn 1246 ac etifeddodd ei fab hynaf Roger Mortimer, yr aglwyddiaeth. Ceir y cyfeiriad olaf at Gwladus ym Mrut y Tywysogion, lle dywedir iddi farw yn Windsor yn 1251. Cwta yw'r cofnod.

Ysbrydolwyd y bardd a hanesydd llenyddiaeth Gymraeg Griffith John Williams i ysgrifennu un o'i gerddi iddi ar ôl darllen y cofnod yn y Brut.

Llyfryddiaeth

golygu
  • John Edward Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co., Llundain, 1911)