Pont sy'n croesi Afon Hafren yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw'r Iron Bridge. Agorwyd ym 1781, dyma'r bont fawr cyntaf (mwy na 100 troedfedd (30.5 medr) o hyd) i'w hadeiladu o haearn bwrw.[1]

Iron Bridge
Mathpont bwa dec, pont ffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1 Ionawr 1781 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1779 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadIronbridge Edit this on Wikidata
SirThe Gorge Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.6273°N 2.48542°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ6723803396 Edit this on Wikidata
Hyd60 metr Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
DeunyddHaearn bwrw, puddled iron Edit this on Wikidata
Y Bont Haern

Roedd y bont yn garreg filltir bwysig yn hanes peirianneg. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I ac mae'n sefyll yng Ngheunant Ironbridge, sydd ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986.[2]

Hanes golygu

Dechreuodd Abraham Darby I doddi mwyn haearn lleol gyda côc a wnaed o glo Coalbrookdale ym 1709, ac yn y degawdau nesaf daeth yr ardal yn ganolfan ddiwydiannol bwysig. Defnyddiwyd Afon Hafren ar gyfer cludo deunyddiau, ond roedd y Ceunant Afon Hafren yn rhwystr rhwng tref Broseley i'r de o'r afon a Madeley a Coalbrookdale i'r gogledd. Roedd angen pont uchel gyda dim ond un rhychwant oherwydd bod yn rhaid i longau uchel basio o dan.

Ym 1773 awgrymodd y pensaer Thomas Farnolls Pritchard adeiladu pont a wnaed o haearn. Yn y pen draw, cyflawnwyd ei gynllun, a chafodd y cydrannau eu gwneud yng ngwaith haearn Coalbrookdale ym 1777-79. Agorwyd y bont i draffig yn 1781.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Iron Bridge". Engineering Timelines. Cyrchwyd 3 Chwefror 2017.
  2. "Ironbridge Gorge". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 3 Chwefror 2017.