Ceunant Ironbridge
Ceunant dwfn yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ceunant Ironbridge. Mae Afon Hafren yn llifo drwyddo.
Math | ceunant |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ironbridge |
Sir | The Gorge |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.6264°N 2.4728°W |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Deunydd | haearn |
Mae'r ceunant yn cymryd ei enw o'r Iron Bridge, y bont haearn enwog sy'n ei groesi – y bont fetel fawr gyntaf yn y byd.
Ffurfiwyd y ceunant trwy erydiad rhewlif ar ddiwedd yr Oes yr Iâ diwethaf. Mae'r toriad dwfn trwy'r creigiau wedi datguddio dyddodion glo, mwyn haearn, calchfaen a clai tân. Arweiniodd argaeledd y deunyddiau crai hyn at ddatblygiad yr ardal yn ystod y Chwyldro Diwydiannol cynnar. Hefyd, roedd yr afon ddwfn ac eang yn caniatáu llongau i gludo cynhyrchion (haearn, teils a phorslen) i'r môr yn hawdd.
Gan fod yr ardal o bwysigrwydd hanesyddol i ddatblygiad y byd diwydiannol modern, mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986.[1] Mae'r Safle'n yn cwmpasu ardal o 550 hectar, yn cynnwys trefi a phentrefi Coalbrookdale, Ironbridge, Jackfield, Madeley, a Coalport.
Rheolir 35 o safleoedd hanesyddol yn y ceunant gan yr Ironbridge Gorge Museum Trust ("Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge"), sefydliad treftadaeth ddiwydiannol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ironbridge Gorge". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 3 Chwefror 2017.