Isabel Ice
Mae Isabel Ice, ganwyd Claire Marsh 15 Ebrill 1982 yng Nghaerdydd yn actores Cymreig sy'n arbenigo ym maes ffilmiau pornograffig.
Isabel Ice | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ebrill 1982 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | actor pornograffig |
Pwysau | 50 cilogram |
Gwobr/au | UK Adult Film and Television Awards, Gwobr yr AVN |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Isabel yng Nghaerdydd a chafodd ei magu ym Mro Morgannwg. Mynychodd ysgol uwchradd Gatholig yn y Fro cyn symud i goleg addysg drydyddol yng Nghaerdydd.[1]
Wedi ymadael a'r coleg aeth Ice i Wlad Tai lle bu'n dysgu Saesneg fel iaith dramor am flwyddyn cyn dychwelyd i wledydd Prydain. Mynychodd Brifysgol Llundain gan ennill gradd anrhydedd ar y cyd mewn Troseddeg a Saesneg.
Wedi ei chyfnod coleg cafodd swydd yng Nghlwb y Windmill yn Soho. Cafodd ei gweld gan sgowt ar ran y diwydiant ffilmiau pornograffig a chafodd wahoddiad i fynd i Los Angeles, Califfornia i weithio fel actores ffilmiau oedolion yn 2003. Mae Ice bellach wedi gweithio i gwmnïau ffilmiau Red Light District, Platinum X Pictures, a Harmony Productions a chwmni'r Cymro Dewi James Vivid.
Gwobrau
golygu- 2007 : Gwobr AVN – Olygfa Rhyw Gorau mewn Cynhyrchiad Tramor (Outnumbered #4)
- 2007 : Gwobrau Ffilm a Theledu Oedolion y DU - Actores Brydeinig Gorau
- 2008 : Gwobrau Ffilm a Theledu Oedolion y DU - Actores Gynorthwyol Gorau
Ffilmyddiaeth
golyguYmddangosodd Ice mewn dros 200 o ffilmiau pornograffig gan gynnwys[2]:
- Baker's Dozen 9, 2005
- Carwash Angels - Wet 'N Wild, 2006
- Always On Fire, 2007
- Bondage Thoughts, 2008
- Chunky Butts, 2009
- Poker Room, 2010
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Isabel Ice - Biography". IDBM.
- ↑ "Isabel Ice Filmography". Adult film database.