Soho, Llundain
Ardal yn Llundain yw Soho, wedi ei lleoli yn y West End yn Ninas Westminster. Ardal adloniant ydyw ac am gyfnod helaeth o ail hanner yr 20g roedd yr ardal yn adnabyddus am ei siopau rhyw, am ei bod yn ardal golau coch, yn ogystal â'i bywyd nos a diwydiant ffilm. Ers dechrau'r 1980au mae'r ardal wedi cael ei gweddnewid ac mae bellach yn ardal ffasiynol yn llawn tai bwyta moethus a swyddfeydd y cyfryngau.
Math | ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Mayfair |
Cyfesurynnau | 51.513°N 0.131°W |
Cod OS | TQ295815 |
Cod post | W1 |