Is-goch
(Ailgyfeiriad o Isgoch)
Ymbelydredd electromagnetig ydyw golau is-goch (neu IR, sef infrared yn Saesneg) gyda thonfedd hirach na golau gweledol. Coch ydy'r lliw gweledol sydd â'r donfedd hiraf. Mae ei donfedd rhwng 750 nm ac 1 mm. Darganfuwyd y math hwn o ymbelydredd gan William Herschel, wrth iddo fesur tymheredd golau'r haul trwy prism.
Dau berson mewn llun lliw-ffug, a wnaed drwy ddefnyddio golau "thermal" is-goch. | |
Math | ymbelydredd electromagnetig |
---|---|
Rhan o | sbectrwm electromagnetig |
Rhagflaenwyd gan | sbectrwm gweladwy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir lluniau is-goch yn helaeth, yn enwedig gan fyddinoedd y byd. Fe'i defnyddir i weld yn y nos, radio pellter byr, i ganfod tymheredd o bell, i gynhesu'r corff mewn sauna isgoch ac mewn seryddiaeth i ganfod tymheredd planedau a gwrthrychau eraill megis cymylau moleciwlar.