Prif arweinydd y blaid ddemocrataidd Hamas yw Ismail Abdel Salam Ahmed Haniyeh (Arabeg: إسماعيل عبد السلام أحمد هنية‎, Ismaʻīl Haniyya; a gyfieithir weithiau fel Ismail Haniya, Ismail Haniyah; (g. 29 Chwefror 1963); mae hefyd yn gyn-Brif Weinidog Awdurdod Cenedlaethol Palesteina ers i Hamas ennill mwyafrif y pleidleisiau yn Etholiad Cyffredinol Palesteina, 2006.

Ismail Haniyeh
Ganwyd29 Ionawr 1963 Edit this on Wikidata
Al-Shati refugee camp Edit this on Wikidata
Man preswylDoha Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrime Minister of the Palestinian National Authority Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolHamas Edit this on Wikidata

Ar bapur, ac oherwydd y cweryl rhwng Fatah a Hamas, collodd ei swydd ar 14 Mehefin 2007 ond parhaodd i wneud y gwaith yn Llain Gaza,[1] a chadarnhawyd ei safle fel Prif Weinidog gan Awdurdod Cenedlaethol Palesteina.

Y dyddiau cynnar golygu

Ganwyd Haniyeh yng Ngwersyll Ffoaduriaid Al-Shati yn Llain Gaza. Roedd ei rieni wedi ffoi yno o Ashkelon (yn Israel heddiw) yn ystod Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948.[2] Mynychodd ysgol y Cenhedloedd Unedig ac yna Prifysgol Islamaidd Gaza.[2][3] Tra yno, daeth i gysylltiad â Hamas a rhwng 1985 a 1986 roedd yn Arweinydd cyngor y myfyrwyr, gan gynrychioli'r Frawdoliaeth Fwslemaidd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Abbas sacks Hamas-led government". BBC News. 14 June 2007. Cyrchwyd 14 June 2007.
  2. 2.0 2.1 "Profile: Hamas PM Ismail Haniya". BBC. 14 December 2006.
  3. 3.0 3.1 Donald Macintyre (3 Ionawr 2009). "Hamas PM Ismail Haniyeh at war with Israel – and his own rivals". The Belfast Telegraph. Italic or bold markup not allowed in: |newspaper= (help)