István I, brenin Hwngari

Yr olaf o Uchel Dywysogion yr Hwngariaid o 997 i 1000 neu 1001, a'r cyntaf o Frenhinoedd Hwngari o 1000 neu 1001 hyd at ei farwolaeth ym 1038, oedd István I a elwir hefyd yn Frenin Sant István, neu yn Gymraeg Steffan (Hwngareg: Szent István király; Lladin: Sanctus Stephanus; Slofaceg: Štefan I. neu Štefan Veľký; tua 97515 Awst 1038). Y mae blwyddyn ei enedigaeth yn ansicr, ond y mae llawer o fanylion am ei fywyd yn awgrymu iddo gael ei eni yn, neu ar ôl, 975, yn Esztergom. Rhoddwyd yr enw paganaidd Vajk iddo adeg ei eni, ond nid yw dyddiad ei fedydd yn hysbys. Ef oedd unig fab y Tywysog Géza a'i wraig Sarolt, a oedd yn disgyn o deulu amlwg o gyula, sef penaduriaid yr hen lwythau Magyaraidd. Er i'w ddau riant gael eu bedyddio, István oedd y cyntaf o'i deulu i droi'n Gristion selog. Priododd Gisela o Fafaria, aelod o linach yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Otto I.

István I, brenin Hwngari
Portread o'r Brenin István I ar gochl o 1031
Ganwydc. 975 Edit this on Wikidata
Esztergom Edit this on Wikidata
Bu farw15 Awst 1038 Edit this on Wikidata
Szentkirály (Esztergom) Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHwngari Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Hwngari Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl20 Awst, 16 Awst Edit this on Wikidata
TadGéza Edit this on Wikidata
MamSarolt Edit this on Wikidata
PriodGisela o Hwngari Edit this on Wikidata
PlantSant Emeric o Hwngari, Otto, Tywysog Hwngari, Hedwig o Hwngari Edit this on Wikidata
Llinachllinach Árpád Edit this on Wikidata
llofnod

Wedi iddo olynu ei dad yn Uchel Dywysog yn 997 bu'n rhaid i István frwydro am yr orsedd yn erbyn ei berthynas, Koppány, a gefnogwyd gan nifer fawr o ryfelwyr paganaidd. Bu István yn drech na Koppány gyda chymorth marchogion tramor gan gynnwys Vecelin, Hont a Pázmány, ac arglwyddi brodorol. Coronwyd ef ar 25 Rhagfyr 1000 neu 1 Ionawr 1001 gyda choron a anfonwyd gan y Pab Silvester II. Trwy gyfres o ryfeloedd yn erbyn llwythau a phenaethiaid lled-annibynnol—gan gynnwys yr Hwngariaid Du, a'i ewythr Gyula yr Ieuaf—unodd y Brenin István Fasn Carpathia dan sofraniaeth Teyrnas Hwngari. Gwarchododd annibyniaeth ei deyrnas trwy orfodi milwyr goresgynnol yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Conrad II i encilio o diriogaeth Hwngari ym 1030.

Sefydlodd István o leiaf un archesgobaeth, chwech esgobaeth, a thri mynachlog Benedictaidd, gan alluogi'r Eglwys Gatholig yn Hwngari i ddatblygu'n annibynnol ar archesgobion yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Anogodd ledaeniad Cristnogaeth gan gosbi Hwngariaid yn llym am wrthod y ffydd neu anwybyddu ei harferion. Seiliwyd ei gyfundrefn o weinyddiaeth leol ar siroedd wedi eu rheoli gan swyddogion brenhinol yn breswyl mewn caerau sirol. Mwynhaodd Hwngari gyfnod o heddwch cymharol yn ystod ei deyrnasiad, a daeth y wlad yn llwybr i bererinion a masnachwyr ar daith o Orllewin Ewrop i Gaergystennin a'r Wlad Sanctaidd.

Bu farw István ar 15 Awst 1038 yn 62 neu 63 oed, gan oroesi pob un o'i feibion a'i ferched. Fe'i claddwyd yn ei fasilica newydd a gafodd ei adeiladu yn Székesfehérvár a'i gysegru i'r Forwyn Sanctaidd. Yn sgil ei farwolaeth, dechreuodd rhyfeloedd cartref yn Hwngari a barhaodd am ddegawdau. Canoneiddiwyd ef, ynghyd â'i fab Imre a Gellért, Esgob Csanád, gan y Pab Grigor VII ym 1083. Daeth István yn sant poblogaidd yn ei famwlad a'r gwledydd cyfagos, ac heddiw yn Hwngari mae ei ddygwyl (a ddethlir ar 20 Awst) hefyd yn ŵyl gyhoeddus, a elwir yn Ddiwrnod Sefydlu'r Wladwriaeth, i goffáu cychwyn y frenhiniaeth.