Ivonka Survilla

Gwleidydd Belarwsiaidd mewn alltudiaeth, Cadeirydd Rada Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws

Ivonka Survilla (Belarwseg Івонка Сурвілла, née Ivonka Šymaniec, Belarwsieg: Івонка Шыманец; Pwyleg Szymaniec). Ganwyd 11 Ebrill 1936 yn Stoŭbcy, oedd ar y pryd yn rhan o Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl (Gorllewin Belarws). Mae'n wleidydd alltud Belarwsieg sy'n byw yng Nghanada, er 1997 hi yw Cadeirydd Rada Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws, yn ffurfiol yn bennaeth y "wladwriaeth" yn alltud.

Ivonka Survilla
Arlywydd Rada Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws mewn alltud
Deiliad
Cychwyn y swydd
1997
Rhagflaenwyd ganJazep Sažyč
Manylion personol
GanwydІвонка Шыманец / Ivonka Szymaniec
(1936-04-11) 11 Ebrill 1936 (88 oed)
Stołpce, Gwlad Pwyl yr Ail Weriniaeth
PriodJanka Survilla
PlantHanna-Pradslava Survilla, Dr. Maria Paula Survilla
CartrefOttawa, Ontario, Canada
Alma materSorbonne
GalwedigaethCyfieithydd
Arlunydd
Gwefanradabnr.org

Ym 1940, ar ôl anecsiad yr Undeb Sofietaidd o Orllewin Belarus, arestiwyd ei thâd, Uladzimier Šymaniec, gan y Sofietiaid a'i ddedfrydu i bum mlynedd o garchar yn Gulag. Dihangodd oherwydd ymosodiad yr Almaenwyr ar yr Undeb Sofietaidd. [1]

Yn 1944 ffodd y teulu i'r Gorllewin trwy Ddwyrain Prwsia gyda'r miloedd o ffoaduriaid eraill a chyrraedd Denmarc yn y pen draw lle buont yn byw mewn gwersyll ffoaduriaid am sawl blwyddyn. Ar y ffordd bu farw chwaer iau Ivonka.[1]

Yn 1948 symudodd ei theulu i Ffrainc ac ymgartrefu ym Mharis. Roedd aelodau teulu Survilla yn gyfranogwyr gweithredol ym mywyd y gymuned Belarwseg leol. Astudiodd Ivonka Šymaniec wedi astudio yn École nationale supérieure des Beaux-Arts ac yna wedi graddio o gyfadran dyniaethau yn y Sorbonne.

Ym 1959 priododd Ivonka Šymaniec â Janka Survilla, economegydd, actifydd a darlledwr radio o Belarwsia. Gydag ef symudodd i Madrid, Sbaen, lle buont yn rhedeg rhaglen radio iaith Belarwsia gyda chefnogaeth llywodraeth Sbaen.[1]

Canada

golygu

Yn 1969 symudodd i Ganada, lle daeth, maes o aw, yn bennaeth Gwasanaethau Cyfieithu yn "Health Canada".[2] Bu’n gweithio yno nes iddi ymddeol yn 1996.

Ynghyd â’i gŵr Janek Surwilla, bu’n weithgar ym mywyd cymuned émigré Belarwsia. Ym 1974, fe’i hetholwyd yn llywydd Sefydliad Gwyddoniaeth a Chelf Belarwsia yn Ottawa, a ddaliodd tan 1984. Ar ôl trychineb Chernobyl, daeth yn rhan o helpu ei ddioddefwyr. Ynghyd â’i gŵr a’i ffrindiau, sefydlodd Gronfa Cymorth Chernobyl Canada ym Melarws (CRFCVB), gan anfon meddyginiaethau a gwahodd plant Belarwsia i wyliau yng Nghanada.

Yn 1997 fe’i hetholwyd yn Arlywydd (Cadeirydd) Rada Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws, sef, llywodraeth alltud Belarws sy'n tyngu llŵ i'r senedd a gynullwyd yn 1918 fel parhad corfforol a deallusol Gweriniaeth Pobl Belarwsia 1918. Ym mis Ebrill 2010 cafodd ei hailethol i’r swyddfa hon.

Arlywyddion Rada BNR

golygu

Survilla yw wythfed Cadeirydd Rada Gwerinaieth Genedlaethol Belarwus:

  • Janka Sierada (9 Mawrth – 14 Mai 1918)
  • Jazep Losik (14 Mai 1918 – 13 Rhagfyr 1919)
  • Piotra Krečeŭski (13 Rhagfyr 1919 – 1928)
  • Vasil Zacharka (1928–1943)
  • Mikoła Abramčyk (1944–1970)
  • Vincent Žuk-Hryskievič (1970–1982)
  • Jazep Sažyč (1982–1997)
  • Ivonka Survilla (ers 1997)

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o Felarws. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.