Iwan B
Cerddor o dras Lydewig ydy Iwan Benead neu Iwan B (ganwyd 2 Hydref 1984). Ganwyd yn ardal Les Lilas o Baris, yn fab i gerddor proffesiynol, dechreuodd astudio piano a theori cerddorol pan oedd yn 5 oed. Pan oedd yn 9, ymunodd â'r Academi Gerddoriaeth ym Mharis.
Iwan B | |
---|---|
Iwan B yng Ngŵyl Lorient, 2008 | |
Ganwyd | 2 Hydref 1984 Les Lilas |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | canwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Prif ddylanwad | cerddoriaeth roc |
Gwefan | http://www.iwanb.com |
Yn 2002, graddiodd ac yn 2004 enillodd radd pellach o 'Paris Atla School of Music'. Yn 2007, enillodd ei ddiploma 3rd cycle yn yr Academi. Mae wedi bod ar daith ag artistiaid eraill gan chwarae mewn neuaddau cyngerdd megis “7 Lézards,” “Le Baiser Salé” a “New Morning”. Daw ei deulu'n wreiddol o Lydaw, ac yn 2003 penderfynodd ddysgu Llydaweg. Daeth yn hoff o gerddoriaeth yr iaith a dechreuodd ysgrifennu caneuon; gan ddefnyddio ysbrydoliaeth o fathau cyfoes o gerddoriaeth megis Pop, Rap a Reggae.
Ar 31 Mai 2007 yn Roazhon, enillodd wobr 'dyfodol yr iaith Llydaweg' yn nhrydydd blwyddyn y wobr, yn y categori 'unigolyn preifat'. Deuddydd yn ddiweddarach enillodd y springboard cerddorol cyntaf yn Karaez ar devezh ar brezhoneg (Llydaweg am 'ddydd yr iaith'). Mae Iwan wedi dechrau gweithio ar ei albwm cyntaf o dan yr enw 'Iwan B'.
Dolenni allanol
golyguMySpace Iwan B Archifwyd 2009-06-24 yn y Peiriant Wayback