Iwan Griffiths

Drymiwr o Gymro

Iwan Griffiths (ganwyd 4 Rhagfyr 1985) yw drymiwr y band roc Cymraeg The Automatic. Mae Iwan yn dod yn wreiddiol o'r Bont-faen yng Nghymru, ac yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Mae ganddo radd yn y gyfraith o Brifysgol Caerdydd.

Iwan Griffiths
Ganwyd4 Rhagfyr 1985 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmeddyg Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc Edit this on Wikidata

Gyrfa cerddorol golygu

Ynghyd â Rob a Frost, cyd-aelodau'r band, roedd yn aelod gwreiddiol y band pan oeddent yn cael eu hadnabod fel White Rabbit, gan newid yr enw yn ddiweddarach i The Automatic, syniad Iwan, a recriwtio Alex Pennie, chwaraewr synth, a'r gitarydd Paul Mullen yn ddiweddarach.

Mae Iwan yn hoff o'r gyfres deledu LOST, a chyfres ffilmiau Star Wars. Ar 15 Awst 2008, cafodd Iwan ei gyfweld ar Starwars.com yn sôn am ei gariad tuag at y  drioleg wreiddiol (Star Wars, Empire Strikes Back and Return of the Jedi) ac am ei hoffter o gêm Lego Star Wars.[1]

Cyfarpar golygu

Byw

  • DW Drum Kits

Stiwdio (Yn ystod recordiad o Not Accepted Anywhere)

  • Premier drums

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Automatic Dig Boba and Bib". Starwars.com. 2008-08-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-18. Cyrchwyd 2008-08-18. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)