Iwan Griffiths
Iwan Griffiths (ganwyd 4 Rhagfyr 1985) yw drymiwr y band roc Cymraeg The Automatic. Mae Iwan yn dod yn wreiddiol o'r Bont-faen yng Nghymru, ac yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Mae ganddo radd yn y gyfraith o Brifysgol Caerdydd.
Iwan Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1985 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | meddyg |
Arddull | cerddoriaeth roc |
Gyrfa cerddorol
golyguYnghyd â Rob a Frost, cyd-aelodau'r band, roedd yn aelod gwreiddiol y band pan oeddent yn cael eu hadnabod fel White Rabbit, gan newid yr enw yn ddiweddarach i The Automatic, syniad Iwan, a recriwtio Alex Pennie, chwaraewr synth, a'r gitarydd Paul Mullen yn ddiweddarach.
Mae Iwan yn hoff o'r gyfres deledu LOST, a chyfres ffilmiau Star Wars. Ar 15 Awst 2008, cafodd Iwan ei gyfweld ar Starwars.com yn sôn am ei gariad tuag at y drioleg wreiddiol (Star Wars, Empire Strikes Back and Return of the Jedi) ac am ei hoffter o gêm Lego Star Wars.[1]
Cyfarpar
golyguByw
- DW Drum Kits
Stiwdio (Yn ystod recordiad o Not Accepted Anywhere)
- Premier drums
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Automatic Dig Boba and Bib". Starwars.com. 2008-08-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-18. Cyrchwyd 2008-08-18. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)