Iwerddon Newydd
Ynys yn perthyn yn wleidyddol i Papua Gini Newydd yw Iwerddon Newydd (Saesneg New Ireland). Saif i'r dwyrain o ynys Gini Newydd ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Prydain Newydd. Hi yw'r ail-fwyaf o Ynysoedd Bismarck, gydag arwynebedd o 8,650 km², a phoblogaeth o tua 100,000. Mae hefyd yn ffurfio rhan o dalaith Iwerddon Newydd, gyda Kavieng fel prifddinas.
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Kavieng |
Poblogaeth | 100,000 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Bismarck |
Sir | New Ireland Province |
Gwlad | Papua Gini Newydd |
Arwynebedd | 7,405 km² |
Uwch y môr | 2,379 metr |
Gerllaw | Môr Bismarck |
Cyfesurynnau | 3.33°S 152°E |
Mae Iwerddon Newydd yn ynys hir a chul, dros 400 km o hyd ond dim ond 6 – 10 km o led heblaw yn y de-ddwyrain. Mynydd Taron (2,379 medr) yw'r copa uchaf. Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd Jacob Le Maire a Willem Cornelisz Schouten o'r Iseldiroedd yn 1616.