Agor y brif ddewislen

Wythnos Yng Nghymru Fydd

(Ailgyfeiriad oddi wrth Wythnos yng Nghymru Fydd)

Nofel ffuglen wyddonol gan Islwyn Ffowc Elis a gyhoeddwyd gan Plaid Cymru yn 1957 yw Wythnos yng Nghymru Fydd. Cyhoeddwyd argraffiad modern gan Wasg Gomer yn Mehefin 2007 (ISBN 9781843238621 ).

Wythnos yng Nghymru Fydd  
WythnosYngNghymruFydd.jpg
Awdur Islwyn Ffowc Elis
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Genre(s) Nofel ffuglen wyddonol
Cyhoeddwr Plaid Cymru
Dyddiad cyhoeddi 1957
Math o gyfrwng Clawr caled

Y PlotGolygu

Mae'r arwr, Ifan Powell (yn yr 1950au) yn cytuno i gymryd rhan mewn arbrawf gwyddonol mewn teithio drwy amser ac y mae'n glanio yng Nghaerdydd yn y flwyddyn 2033. Mae'n aros yno am 5 niwrnod ac y mae'n aros gyda theulu sydd yn mynd ag ef ar daith o gwmpas Cymru. Yno y mae'n canfod fod Cymru wedi ennill hunan-lywodraeth ac yn llewyrchus yn economaidd ac yn heddychlon yn gymdeithasol ac y mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu gyda phawb yn gwbl ddwyieithog. Mae'n syrthio mewn cariad gyda merch y teulu lle mae'n aros ac wedi iddo ddychwelyd i Gymru'r 1950au mae ei hiraeth amdani'n peri iddo fynnu mynd yn ôl i 2033. Er i'r gwyddonydd sydd yn gwneud yr arbrawf ei gynghori yn erbyn hyn, y mae'n cytuno wedi i Ifan erfyn arno.

Fodd bynnag, pan mae'n dychwelyd, y mae'n cael ei hun mewn Cymru cwbl wahanol, er mai'r un yw'r lleoliad a'r dyddiad ag o'r blaen (h.y. Caerdydd yn 2033). Mae'r iaith Gymraeg wedi marw a phob arlliw o hunaniaeth Gymreig wedi diflannu, yn wir y mae hyd yn oed enw'r wlad wedi ei newid i "Lloegr Orllewinol". Mae'r gymdeithas hefyd yn ansefydlog a llawn helynt. Dim ond am ddeuddydd y mae Ifan yn aros yma - y mae hynny yn fwy na digon iddo.

Wedi i Ifan ddychwelyd am yr eildro i'r presennol y mae'r gwyddonydd yn egluro iddo fod y ddwy Gymru y bu Ifan yn ymweld a hwynt yn bosibiliadau ar gyfer y dyfodol a'i fod i fyny i bobl Cymru pa un gaiff ei wireddu. Yn sgil hyn y mae Ifan yn troi yn genedlaetholwr Cymreig (yr oedd gynt yn gwrthwynebu cenedlaetholdeb Cymreig) gan ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau mai'r Gymru y bu ynddi hi yn gyntaf fydd yn dod yn wir.

Yn 2017 cyfansoddodd Gareth Glyn opera yn seiliedig ar y nofel gyda'r libreto gan Mererid Hopwood.

BeirniadaethGolygu

Mae'r nofel yn arwyddocaol yn hanes llenyddiaeth Gymraeg gan mai hi oedd y ffuglen wyddonol gyntaf i gael ei hysgrifennu yn yr iaith.[angen ffynhonnell] Fodd bynnag, cydnabyddir yn gyffredinol (a chan yr awdur ei hun) mai propaganda gwleidyddol yw'r nofel yn y bôn a bod hynny yn tanseilio rhywfaint ar ei gwerth llenyddol. Cafwyd adolygiad ohono mewn sawl maes gan gynnwys gan Lowri Haf Cooke[1] ac ar BBC Radio Cymru[2]

Ail-argraffwyd y llyfr yn 2007 ar bumdeg mlwyddiant y cyhoeddiad gwreiddiol.[3]

Dylanwad Tramor ar Wythnos yng Nghymru FyddGolygu

Ysbrydolwyd y stori gan lwyddiant llyfr Altneuland gan Theodor Herzl oedd yn cyflwyno agenda Seioniaeth ar gyfer sefydlu gwladfa Iddewig ym Mhalesteina. Cyhoeddwyd y llyfr yn 1902 a bu'n ddylanwadol iawn ar Iddewon y cyfnod ac wedyn. Enwyd y ddinas Tel Aviv ar ôl teitl cyfieithiad Hebraeg o'r llyfr.

CyfeiriadauGolygu