J. Beverley Smith
Hanesydd o Gymru oedd yr Athro J. Beverley Smith (ganwyd 27 Medi 1931 – 19 Chwefror 2024).[1][2] Ei brif faes oedd hanes Cymru'r Oesoedd Canol yn Oes y Tywysogion.
J. Beverley Smith | |
---|---|
Ganwyd | Jenkyn Beverley Smith 27 Medi 1931 |
Bu farw | 19 Chwefror 2024 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, llenor, academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol |
Roedd yn enedigol o Orseinon, ac aeth i'r brifysgol yn Aberystwyth.
Wedi cyfnod yn y fyddin a chyfnod yn gweithio i Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru dychwelodd i Aberystwyth i weithio yn Adran Lawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol cyn cael ei benodi yn ddarlithydd yn Adran Hanes Cymru yn Mhrifysgol Aberystwyth.[3]
Roedd yn awdur nifer o erthyglau dysgedig yn ogystal â'r gyfrol fawr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sy'n astudiaeth drylwyr o yrfa Llywelyn Ein Llyw Olaf a'i gyfnod a'r unig fywgraffiad safonol o'r tywysog hwnnw.
Bu'n un o olygwyr Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd am gyfnod a bu'n o gyd-olygyddion Studia Celtica, un o'r prif gofnodolion astudiaethau Celtaidd, rhwng 1996 a 2010.
Bu'n gwasanaethu sawl corff cyhoeddus - roedd yn aelod o Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1974 a 1984, bu'n aelod o Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru am dros 40 mlynedd ac yn gadeirydd arno o 1985-91.
Bu hefyd yn gadeirydd Comiswn Brenhinol Henebion Cymru ac yn gadeirydd Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod â Llinos a ganwyd dau fab iddynt - Robert a Huw. Bu farw yn 92 mlwydd oed. Cynhaliwyd ei angladd ar 6 Mawrth 2024 yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth am 12.30pm.[3]
Llyfryddiaeth
golygu- J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Smith Prof. (Jenkyn) Beverley", Who's Who (fersiwn arlein, Rhagfyr 2017). Retrieved 4 Mai 2018.
- ↑ "Click here to view the tribute page for Jenkyn Beverley SMITH". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-28.
- ↑ 3.0 3.1 "Teyrngedau i J Beverley Smith, hanesydd Llywelyn ein Llyw Olaf". BBC Cymru Fyw. 2024-02-21. Cyrchwyd 2024-02-21.