Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd
Cylchgrawn ysgolheigaidd ym maes Astudiaethau Celtaidd oedd Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd (Saesneg: Bulletin of the Board of Celtic Studies). Cyhoeddwyd ef gyntaf yn 1921 gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru, a daeth i ben pan unwyd ef a'r cylchgrawn Studia Celtica yn 1993.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn gwyddonol |
---|---|
Daeth i ben | 1993 |
Cyhoeddwr | Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd |
Iaith | Cymraeg, Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 1921 |
Roedd yn canolbwyntio ar destunau o ddiddordeb Cymreig, ond hefyd yn cynnwys deunydd yn ymwneud â gwledydd Celtaidd eraill. Saesneg a Chymraeg oedd ei brif ieithoedd, gyda rhai erthyglau Ffrangeg neu Almaeneg ar brydiau. Dosberthid y cynnwys i dair prif adran: Iaith a Llên, Hanes a Chyfraith ac Archaeoleg a Chelfyddyd. Ymysg ei olygyddion roedd Syr Ifor Williams (1937 hyd 1948).