J. M. E. McTaggart
Athronydd o Loegr oedd John McTaggart Ellis McTaggart (3 Medi 1866 – 18 Ionawr 1925).
J. M. E. McTaggart | |
---|---|
Ganwyd | 3 Medi 1866 Llundain |
Bu farw | 18 Ionawr 1925 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, academydd |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Georg Hegel |
Mudiad | British idealism |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig |
Enillodd ei radd yn athroniaeth o Goleg y Drindod, Caergrawnt ym 1888, ac astudiodd yno fel cymrawd o 1891. Cafodd ei ddyrchafu'n athro Gwyddorau Moesol yng Ngholeg y Drindod ym 1897, ac arhosodd yn y swydd honno nes iddo ymddeol ym 1923.[1]
Yn ôl anecdot enwog amdano, fe adawodd ei gath Pushkin i orwedd o flaen y tân yn y gaeaf yn hytrach na chymryd y lle cynnes am ei hunan, gan ddadlau "that's the best it gets for a cat".[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "John M. E. McTaggart", Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford). Adalwyd ar 3 Chwefror 2018.
- ↑ Cave, P. (2011). "With and Without Absurdity: Moore, Magic and McTaggart's Cat". Royal Institute of Philosophy Supplement, 68, 125-149. doi:10.1017/S1358246111000038