Georg Hegel
Athronydd o'r Almaen oedd Georg Wilhelm Friedrich Hegel (27 Awst 1770 - 14 Tachwedd 1831).
Georg Hegel | |
---|---|
Portread o G. W. F. Hegel gan Jakob Schlesinger (1831) | |
Ganwyd | 27 Awst 1770 Stuttgart |
Bu farw | 14 Tachwedd 1831 o colera Berlin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Württemberg |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, academydd, hanesydd athroniaeth, llenor, athronydd y gyfraith, rhesymegwr |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Lectures on the Philosophy of History, Encyclopedia of the Philosophical Sciences, Science of Logic, The Phenomenology of Spirit, Elements of the Philosophy of Right, Lectures on Aesthetics, Lectures on the Philosophy of Religion, Lectures on the History of Philosophy |
Prif ddylanwad | Friedrich Schelling, Immanuel Kant, Heraclitos, Baruch Spinoza, Montesquieu, Aristoteles, Platon, Plotinus, Proclus, Anselm o Gaergaint, Nicholas of Cusa, René Descartes, Jean-Jacques Rousseau, Jakob Böhme, Johann Gottlieb Fichte, Friedrich Schleiermacher |
Mudiad | German idealism, hanesiaeth, Hegelianism |
Tad | Georg Ludwig Hegel |
Mam | Maria Magdalena Louisa Fromm |
Priod | Marie von Tucher |
Plant | Karl Von Hegel |
Perthnasau | Georg Ludwig Christoph Hegel |
Gwobr/au | Urdd yr Eryr Coch 3ydd radd |
llofnod | |
Bywgraffiad
golyguBywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Georg Wilhelm Friedrich Hegel yn Stuttgart yn Nugiaeth Württemberg ar 27 Awst 1770. Swyddog cyllid oedd ei dad. Dysgodd Georg elfennau'r iaith Ladin oddi wrth ei fam erbyn yr amser iddo ddechrau mynychu ysgol ramadeg Stuttgart, ac yno y derbyniai ei addysg hyd at 18 oed. Yn ystod ei ddyddiau ysgol, casglodd ddyfyniadau o awduron clasurol, pigion o bapurau newydd, a thraethodau ar bynciau moesol a mathemateg o gyfeirlyfrau safonol yr oes, ac aeth ati i drefnu'r gwaith hwn yn nhrefn yr wyddor a chyda nodiadau ei hun.
Aeth Hegel i Brifysgol Tübingen ym 1788, gyda'r bwriad o fod yn offeiriad, yn ôl dymuniadau ei rieni. Astudiodd athroniaeth a'r clasuron am ddwy flynedd cyn iddo raddio o Tübingen ym 1790 a chychwyn ar ei gwrs diwinyddol. Nid oedd da ganddo daliadau uniongred ei athrawon, a noda'r dystysgrif a dderbyniai ar ddiwedd ei gwrs ym 1793 mai ysbeidiol oedd ei ymdrechion ym maes crefydd, yn enwedig o gymharu â'i ddiddordebau athronyddol. Enillodd enw fel dyn hen ifanc, a sylwodd ei diwtoriaid ar ei wendidau wrth fynegi ei hun ar lafar, ond mwynhaodd Hegel ei gyfnod yn fyfyriwr ar y cyfan, a bu'n hoff o gwmni llon, diod gadarn, a merched. Ymhlith ei gyfeillion oedd y bardd J. C. F. Hölderlin a Friedrich Schelling, a arferai rannu ystafell gydag ef, a buont yn trafod trasiedïau Hen Roeg ac yn canu clodydd y Chwyldro Ffrengig.
Wedi iddo adael Prifysgol Tübingen, ac yn dymuno astudio athroniaeth a llenyddiaeth Roeg yn ei amser hamdden, penderfynodd Hegel weithio yn diwtor preifat yn hytrach na chymryd urddau eglwysig. Trigai yn Bern yn y Swistir o 1793 i 1796, ac yn y cyfnod hwn darllenodd The History of the Decline and Fall of the Roman Empire gan Edward Gibbon a De l'esprit des loix gan Montesquieu, yn ogystal â chlasuron yr hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid. Astudiodd hefyd athroniaeth feirniadol Immanuel Kant, a chafodd ei ysbrydoli gan draethawd Kant ar bwnc crefydd i egluro meddyliau diwinyddol ei hun. Cesglir yr ysgrifeniadau rheiny yn y gyfrol Hegels theologische Jugendschriften (1907), a gyhoeddwyd tri-chwarter canrif wedi ei farwolaeth. Er gwaethaf ei efrydiau toreithiog, teimlodd Hegel yn unig yn Bern oherwydd ei ddiffyg cwmni.
Symudodd Hegel i Frankfurt am Main, lle cafodd swydd tiwtor ar gais Hölderlin, yn niwedd 1796. Dioddefai Hegel y pruddglwyf o ganlyniad i'w unigrwydd, a cheisiodd wella'i ysbryd drwy weithio'n galetach fyth a helaethu ar ei wybodaeth o athroniaeth Groeg yr Henfyd, hanes modern, a gwleidyddiaeth. Darllenodd bapurau newydd Saesneg, astudiodd economeg, ac ysgrifennodd ar bynciau gwleidyddol Dugiaeth Württemberg. Yn sgil marwolaeth ei dad ym 1799 etifeddodd Hegel ddigon o arian i geisio am swydd privatdozent, sef darlithydd heb dâl.
Gyrfa academaidd
golyguYn Ionawr 1801 teithiodd Hegel i Jena, yn Nugiaeth Sachsen-Weimar, a fyddai'n gartref i fudiad Rhamantaidd yr Almaen. Ar y pryd teimlai fel yr oedd terfyn ar oes aur y ddinas, gan fod sawl ysgolhaig – gan gynnwys Johann Gottlieb Fichte a'r brodyr August a Friedrich Schlegel – eisoes wedi ffarwelio â'r brifysgol. Yno bu Friedrich Schelling yn ddarlithydd ers 1798, ac mae'n debyg iddo wahodd ei hen gyfaill Hegel i'w ymuno yn y frwydr yn erbyn dilynwyr slafaidd Kant. Gwelir dylanwad Schelling ar athroniaeth Hegel yn y cyfnod hwn yn ei draethawd estynedig a gyflawnai er mwyn cael ei dderbyn yn ddarlithydd, ac yn y traethawd cyntaf a gyhoeddwyd ganddo, Differenz des Fichte'schen und Schelling'schen Systems der Philosophie (1801).
Darlithodd Hegel ar bynciau rhesymeg a metaffiseg yng ngaeaf 1801–02, ac ar ei holl ddamcaniaeth athronyddol ym 1804. Adeiladai ar ei system feddwl wrth iddo addysgu ei fyfyrwyr, a bwriadai hel ei nodiadau at ei gilydd i ysgrifennu gwerslyfr. Ar wahân i'w waith academaidd, dilynodd y newyddion diweddaraf o fyd gwleidyddiaeth, daliodd at ei arfer o gopïo detholion o lyfrau, a mynychodd ddarlithoedd ar ffisioleg a gwyddorau eraill. Yn Chwefror 1805 fe'i penodwyd yn athro arbennig ym Mhrifysgol Jena, ac yn sgil ymyriad gan Goethe derbyniodd Hegel ei gyflog cyntaf o'r brifysgol yng Ngorffennaf 1806. Difrodwyd Jena gan y frwydr rhwng Napoléon a'r Prwsiaid yn Hydref 1806, a gwaethygodd sefyllfa ariannol Hegel wrth i fyfyrwyr ffoi'r ddinas.
Cyhoeddodd ei waith pwysig cyntaf, Phänomenologie des Geistes, ym 1807. Symudodd i Bamberg ac o 1807 i 1808 efe oedd golygydd papur newydd y Bamberger Zeitung. Derbyniodd Hegel reithoriaeth yr Aegidiengymnasium yn Nürnberg, ac yno bu'n bennaeth ar yr ysgol o Ragfyr 1808 i Awst 1816, gydag incwm rheolaidd. Priododd â Marie von Tucher (1791–1855), o Nürnberg, ym 1811. Cawsant ddau fab, Karl ac Immanuel, ac ymunodd mab anghyfreithlon Hegel o Jena, Ludwig, â'r teulu. Yn Nürnberg cyhoeddodd Hegel ddwy gyfrol ei Wissenschaft der Logik: Die objektive Logik (1812) a Die subjektive Logik (1816). O ganlyniad i'r campwaith hwn, derbyniodd gynigion am gadeiriau academaidd yn Erlangen, Berlin, a Heidelberg, a phenderfynodd Hegel dderbyn y swydd athro ym Mhrifysgol Heidelberg. Yno, o'r diwedd, cyhoeddodd ei werslyfr at ddiben ei ddarlithoedd, yr Encyklopädie der philosophischen Wissenschaften im Grundrisse (1817), eglurhad o'i holl system feddwl.
Ym 1818 trosglwyddodd Hegel i Brifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, i gymryd y gadair athroniaeth a fu'n wag ers marwolaeth Fichte ym 1814. Yno cyhoeddodd un o'i weithiau enwocaf, Naturrecht und Staatswissenschaft im Grundrisse neu Grundlinien der Philosophie des Rechts (1821). Wedi hynny, ymroddai i'w ddarlithoedd ac yn y cyfnod 1823–27 bu'n adolygu ac yn ychwanegu at ei nodiadau byth a beunydd. Tynnodd ar ei ymweliadau i'r theatr, y neuadd gyngerdd, a'r oriel ddarluniau wrth draethu ar bwnc estheteg. Ymgynulliai cannoedd o ddisgyblion o bedwar ban yr Almaen i Ferlin i wrando ar ddarlithoedd Hegel, ac yn y cyfnod hwn ymgodai ysgol yr Hegeliaid. Penodwyd Hegel yn rheithor Prifysgol Friedrich Wilhelm ym 1830, ac ym 1831 derbyniodd wobr oddi ar y Brenin Friedrich Wilhelm III.
Diwedd ei oes
golyguBu farw Hegel ym Merlin, yn nawn ei enwogrwydd, ar 14 Tachwedd 1831 yn 61 oed, o afiechyd colera.
Llyfryddiaeth
golygu- Phänomenologie des Geistes (1807)
- Wissenschaft der Logik (1811-1816)
- Encyclopädie der philosophischen Wissenschaften im Grundrisse (1817)
- Grundlinien der Philosophie des Rechts (1820)
Astudiaethau
golygu- E. Gwynn Matthews, Hegel, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1980)