Jack Matthews
Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb yw Jack Matthews OBE (21 Awst 1920 – 18 Gorffennaf 2012). Enillodd 17 o gapiau dros Gymru a chwaraeodd i'r Llewod. Roedd yn chwarae fel asgellwr neu ganolwr.
Jack Matthews | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Mehefin 1920 ![]() Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Bu farw | 18 Gorffennaf 2012 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg yn y fyddin, chwaraewr rygbi'r undeb ![]() |
Gwobr/au | OBE ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Bridgend Ravens, Clwb Rygbi Casnewydd, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig ![]() |
Safle | Canolwr ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Ganed ef ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn feddyg wrth ei alwedigaeth, bu'n chwarae rygbi i Gaerdydd. Yn ystod "ail oes aur" tîm rygbi Cymru yn nechrau'r 1950au, ffurfiai ef a Bleddyn Williams bartneriaeth fel canolwyr a ystyrir yn un o'r rhai gorau yn hanes rygbi Cymru. Enillodd chwe chap dros y Llewod ar eu taith i Seland Newydd ac Awstralia yn 1950.
Ef oedd meddyg tîm y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 1980.