Bleddyn Williams
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru oedd Bleddyn Llewellyn Williams, MBE (22 Chwefror 1923 - 6 Gorffennaf 2009). Enillodd 22 o gapiau dros Gymru, fel canolwr yn bennaf, ac a adnabyddid fel "Tywysog y Canolwyr".
Bleddyn Williams | |
---|---|
Ganwyd | 22 Chwefror 1923 Sir Forgannwg |
Bu farw | 6 Gorffennaf 2009 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 178 centimetr |
Pwysau | 83 cilogram |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Trecelyn, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | maswr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed ef yn Ffynnon Taf ger Caerdydd. Roedd yn un o chwaraewyr mwyaf nodedig Clwb Rygbi Caerdydd. Ef oedd capten tim Caerdydd pan gawsant fuddugoliaeth dros y Crysau Duon yn 1953 a ffurfiai bartneriaeth effeithiol dros ben i Gaerdydd ac i Gymru gyda’r canolwr arall, Jack Matthews. Chwaraeodd pob un o’i saith brawd i Gaerdydd hefyd.
Chwaraeodd nifer o weithiau drost dîm Cymru mewn gemau answyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ym Mharc yr Arfau yn 1947. Yn 1953 yr oedd yn gapten tîm Cymru pan gurwyd y Crysau Duon. Chwaraeodd ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 1955. Sgoriodd saith cais dros Gymru a bu’n gapten y tîm bum gwaith i gyd, gyda Chymru’n ennill pob un o’r gemau hyn.
Aeth ar daith i Seland Newydd ac Awstralia gyda’r Llewod Prydeinig yn 1950, ac fe’i dewiswyd yn is-gapten. Chwaraeodd mewn pedair gêm brawf yn erbyn y Crysau Duon a dwy yn erbyn Awstralia, un o’r ddwy fel capten. Derbyniodd yr MBE am ei wasanaethau i rygbi.