Awdur a darlunydd o Loegr sy'n byw yng Nghymru[1] yw Jackie Morris (ganwyd 1961). Fe fu ar restr fer Medal Kate Greenaway yn 2016 a’i hennill yn 2019 [2] am ei darluniad o The Lost Words, a bleidleisiwyd yn llyfr harddaf 2016 gan lyfrwerthwyr y DU.[3] Enillodd Wobr Tir na n-Og am y llyfr plant Seal Children.

Jackie Morris
Ganwyd1961 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Bath Academy of Media Makeup Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, darlunydd, awdur plant, artist Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Kate Greenaway Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganed Morris ym Mirmingham ym 1961. Symudodd ei theulu i Evesham pan oedd hi'n bedair oed. Dywedodd eu hathrawon wrthi fel plentyn na allai fod yn arlunydd, ond er hynny penderfynodd daflu rhybudd i'r gwynt a dysgu paentio. Fe mynychodd Morris Ysgol Uwchradd y Tywysog Henry yn Evesham ac wedi hynny fu'n llwyddiannus yn Academi Gelf Caerfaddon .[4][5]

Wedi gadael coleg cafodd waith ym maes golygu, gan ddarlunio cylchgronau fel Radio Times, New Statesman, New Society a Country Living. Bu’n gweithio am flynyddoedd yn darlunio llyfrau ac yn 2016, roedd ar restr fer Medal Kate Greenaway am Something About a Bear. Mae'r llyfr yn cynnwys ei lliwiau dŵr o wahanol fathau o arth. Mae hi'n byw mewn tŷ bach ger y môr yng Nghymru, yn paentio, ysgrifennu a breuddwydio.

Llyfr o "swynion" gan Robert Macfarlane yw The Lost Words wedi'u darlunio gan Morris, a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Mererid Hopwood dan y teitl Y Geiriau Diflanedig[6]. Mae gan y llyfr gliwiau i eiriau megis mes a mwyar duon. Dywedwyd bod y llyfr wedi'i ysbrydoli gan rifynnau'r 21ain ganrif o'r Oxford Junior Dictionary lle hepgorwyd rhai geiriau fel kingfisher sy'n gysylltiedig â natur er mwyn cynnwys termau technegol fel attachment, broadband a chatroom.[7] Yn 2017, anfonodd Laurence Rose lythyr protest i’r geiriadur a lofnodwyd gan Margaret Atwood, Sara Maitland, Michael Morpurgo, Andrew Motion, Macfarlane, a Morris. Mi fu hyn yn pwnc llosg a'r canlyniad creadigol oedd syniad ar gyfer gwaith ar y cyd gan McFarlane a Morris.[8]

Gwobrau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Biography". Jackie Morris Artist (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-01.
  2. 2.0 2.1 Flood, Alison (2019-06-18). "Carnegie medal goes to first writer of colour in its 83-year history". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-06-19.
  3. 3.0 3.1 Kean, Danuta (2017-11-21). "Doctor's diary This is Going to Hurt wins public vote for book of the year". The Guardian. Cyrchwyd 2018-01-16.
  4. "JACKIE MORRIS | Children's Book Author and illustrator". brightstarbedtimestories.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-01-15.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-24. Cyrchwyd 2020-01-10.
  6. "Graffeg to publish Welsh language edition of The Lost Words | The Bookseller". www.thebookseller.com. Cyrchwyd 2020-11-01.
  7. Flood, Alison (2015-01-13). "Oxford Junior Dictionary's replacement of 'natural' words with 21st-century terms sparks outcry". the Guardian. Cyrchwyd 2018-01-16.
  8. Norbury, Katharine (2017-10-02). "The Lost Words by Robert Macfarlane and Jackie Morris review – sumptuous". the Guardian. Cyrchwyd 2018-01-15.
  9. Ltd, Sequence Collective. "Tir na n-Og awards Past Winners - Welsh Books Council". www.cllc.org.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-02. Cyrchwyd 2018-01-16.
  10. "Jackie Morris | Graffeg Publishing". www.graffeg.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-01-16.