Jacqueline Pascal

Lleian a bardd Ffrengig oedd Jacqueline Pascal (4 Hydref 16254 Hydref 1661). Roedd yn chwaer yr athronydd a'r mathemategydd Blaise Pascal. Dechreuodd farddoni pan oedd yn wyth oed a sgwennodd ddrama bum act pan oedd yn unarddeg oed.[1]

Jacqueline Pascal
Ganwyd4 Hydref 1625 Edit this on Wikidata
Clermont-Ferrand Edit this on Wikidata
Bu farw4 Hydref 1661 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, lleian, llenor, athronydd Edit this on Wikidata
TadÉtienne Pascal Edit this on Wikidata

Oherwydd dylanwad ei brawd, cafodd droedigaeth i fath o Babyddiaeth Sistersiaidd o'r enw Janseniaeth' a oedd yn boblogaidd yn Ffrainc ac a oedd yn gweld y pechod gwreiddiol, rhagordeiniaeth a gras Duw fel canolbwynt eu ffydd. Daeth yn lleian yn 1652, yn Abaty Port-Royal ym Mharis.[2]

Fe'i ganed yn Clermont-Ferrand, dinas yn Rhanbarth Auvergne, yng nghanol Ffrainc.

Cyfeiriadau

golygu
  1. The Encyclopaedia Britannica: A Dictionary of Arts, Sciences, Literature and General Information (yn Saesneg). Encyclopaedia Britannica. 1911. t. 881.
  2. iep.utm.edu; adalwyd Ebrill 2016
   Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.