Jake Gyllenhaal
Mae Jacob Benjamin "Jake" Gyllenhaal (ynganer /ˈdʒɪlənhɑːl/; ganed 19 Rhagfyr 1980) yn actor Americanaidd. Yn fab i'r cyfarwyddwr Stephen Gyllenhaal a'r sgriptiwr Naomi Foner, dechreuodd Gyllenhaal actio pan oedd yn ddeng mlwydd oed. Mae ef wedi actio mewn amrywiaeth o ffilmiau ers ei prif ran cyntaf yn October Sky ym 1999, ac yna'r ffilm gwlt Donnie Darko, lle chwaraeoedd rhan arddegwyr gyda phroblemau seicolegol. Yn y ffilm lwyddiannus The Day After Tomorrow yn 2004, actiodd gyda Dennis Quaid a chwaraeodd rôl ei dad. Yn 2005, chwaraeodd rhan morwr chwerw yn y ffilm Jarhead. Yn yr un flwyddyn, derbyniodd feirniadaeth clodwiw am chwarae rhan Jack Twist yn y ffilm Brokeback Mountain gyda Heath Ledger.
Jake Gyllenhaal | |
---|---|
Ganwyd | Jacob Benjamin Gyllenhaal 19 Rhagfyr 1980 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, actor llais |
Taldra | 181.6 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Stephen Gyllenhaal |
Mam | Naomi Foner Gyllenhaal |
Partner | Kirsten Dunst, Reese Witherspoon, Taylor Swift, Alyssa Miller, Jeanne Cadieu |
Perthnasau | Ramona Sarsgaard, Gloria Sarsgaard |
Llinach | Gyllenhaal |
Gwobr/au | Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Rhan Gynhaliol |
llofnod | |
Ffilmyddiaeth
golyguBlwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1991 | City Slickers | Danny Robbins | |
1993 | Josh and S.A.M. | Leon | |
A Dangerous Woman | Edward | fel Jacob Gyllenhaal | |
1998 | Homegrown | Jake/Blue Kahan | |
1999 | October Sky | Homer Hickam Jr. | |
2001 | Donnie Darko | Donald J. "Donnie" Darko | |
Bubble Boy | Jimmy Livingston | ||
Lovely & Amazing | Jordan | ||
2002 | Highway | Pilot Kelson | |
Moonlight Mile | Joe Nast | ||
The Good Girl | Thomas 'Holden' Worther | ||
2003 | Abby Singer | Ef ei hun | (Cameo) |
2004 | The Day After Tomorrow | Sam Hall | |
2005 | Brokeback Mountain | Jack Twist | |
Jarhead | Anthony "Swoff" Swofford | ||
Proof | Harold 'Hal' Dobbs | ||
2007 | Zodiac | Robert Graysmith | |
Rendition | Douglas Freeman | ||
2009 | Brothers | Tommy Cahill | |
2010 | Prince of Persia: The Sands of Time | Prince Dastan | |
Nailed | Howard Birdwell | post-production | |
Love and Other Drugs | Jamie Reidy | post-production | |
2011 | Source Code | Colter | post-production |
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.