Jalal al-Din Muhammad Rumi
Bardd telynegol a chyfrinydd oedd Jalal al-Din Muhammad Rumi neu Jalaluddin Rumi (Perseg: مولانا جلال الدین محمد رومی , Twrceg: Mevlânâ Celâleddin Mehmed Rumi) ) (Rumi: Mohammed Ibn Mohammed, 1207 - 1273), a aned yn Balkh ym Mhersia Fawr (rhan o Affganistan heddiw). Cafodd y llysenw 'Rumi' ("Rhufeinig") am ei fod yn byw am y rhan fwyaf o'i oes mewn rhan o Asia Leiaf a oedd yn dal i fod dan reolaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd ar y pryd. Ei enw poblogaidd yn Nhwrci yw Mevlana.
Jalal al-Din Muhammad Rumi | |
---|---|
Ffugenw | خاموش |
Ganwyd | 30 Medi 1207 Vakhsh |
Bu farw | 17 Rhagfyr 1273 Konya |
Galwedigaeth | bardd, Ysgolhaig Islamaidd, llenor, llenor, athronydd, cyfrinydd |
Adnabyddus am | Seven Sessions, Fihi Ma Fihi, Masnavi, Diwan-e Shams-e Tabrizi, Maktubat |
Prif ddylanwad | Shams Tabrizi, Ibn Arabi, Abdul Qadir Gilani |
Tad | Baha ud-Din Walad |
Priod | Gawhar Khatun |
Plant | Sultan Walad |
Ymsefydlodd Rumi yn ninas Iconium (Konya heddiw) yn Nhwrci yn 1226 a sefydlu enwad newydd a adnabyddir heddiw fel y "Derfishiaid Chwyrlïol".
Fel llenor yn yr iaith Berseg cyfansoddai nifer o gerddi telynegol, cyfriniol eu naws, a geir yn y casgliad Divani Shamsi Tabriz. Mae'r rhan fwyaf ar ffurf ghazalau (math o ganeuon serch) i'w feistr cyfriniol Shamsi Tabriz ("Haul Tabriz"); telynegau am gariad wedi'i drawsnewid yn gariad dwyfol ydynt. Ysgrifennodd yn ogystal arwrgerdd ar ddysgeidiaeth y Swffiaid, Masnavi y ma' navi.
Mae ei goleg (medresa) a'i feddrod i'w gweld yn ninas Konya ac yn ganolfan pererindod hyd heddiw.