Tref yn y dalaith o'r un enw yw Balkh (Perseg: بلخ) heddiw, yng ngogledd Affganistan. Enw arall arni yw Bactra. Mae'n sefyll tuag 20 km i'r gogledd-orllewin o'r brifddinas ranbarthol Mazar-i-Sharif, a thua 74 km (46 milltir) i'r de o afon Amu Darya, Afon Oxus yr Henfyd, ac roedd un o'r ffrydiau sy'n ymuno ynddi yn llifo heibio yn y gorffennol.

Balkh
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth77,000 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSamarcand Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Dari Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBalkh Edit this on Wikidata
GwladBaner Affganistan Affganistan
Uwch y môr365 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.7581°N 66.8989°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion
Y Mosg Gwyrdd yn Balkh (15g)

Mae'r hanesydd Armenaidd Moses o Khorene, yn y 5g, yn cyfeirio at yr Hunni yn byw yn agos at y Sarmatiaid ac yn dweud iddynt gipio Balkh rhwng 194 a 214.

Yn ddiweddarach, Balkh oedd un o ddinasoedd pwysicaf Khorasan, yn nwyrain Persia Fawr, a Pherseg oedd ei hiaith a'i diwylliant. Ganed y bardd a chyfrinydd enwog Jalal al-Din Muhammad Rumi yno yn 1207.

Balkh oedd un o ddinasoedd hynaf ac enwocaf Persia a Chanolbarth Asia yn yr Oesoedd Canol, ond mae ei gwreiddiau'n ymestyn yn ôl i gyfnod ymerodraeth Bactria. Mae'r enw'n dwyn perthynas â'r enw Sansgrit Bhakri, a roddodd i'r Groegiaid y ffurf Bactra, prifddinas teyrnas Bactria. Yn anffodus mae'r rhan fwyaf o'r hen ddinas yn adfeilion heddiw, erwau eang o ohonyn nhw lleoledig tua 12 km o lan ffrwd dymhorol Afon Balkh, tua 365 metr (1,200 tr) uwchlaw lefel y môr.