James Birch
Oriadurwr a sectydd o Gymru oedd James Birch (fl. 1771–1790,[1] bu farw mis Hydref 1800?)[2] a sefydlodd mudiad y Birchiaid.
James Birch | |
---|---|
Ganwyd | Sir Benfro |
Bu farw | c. 1800 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | oriadurwr, arweinydd crefyddol |
Ymddengys iddo gael ei eni yn Sir Benfro. Gweithiodd fel oriadurwr yn Llundain a chlywir y sôn cyntaf amdano ym 1759, yn aelod o'r Muggletoniaid. Gadawodd â'r mudiad hwn ym 1778 gan gychwyn sect ei hunan.[3]
Honodd Birch taw ef oedd trydydd proffwyd y Muggletoniaid ar ôl Lodowicke Muggleton a John Reeve. Datganodd Birch fod y byd yn dod i ben a bod Duw yn casglu'i "ddefaid" ac yn cael gwared â'i "eifr". Condemniodd broffwydi eraill gan alw ei hunan yn "broffwyd rheswm". Cyfansoddodd ganeuon i ddenu dilynwyr, y mwyafrif ohonynt yn Gymry[1] yn enwedig o Sir Benfro.[3] Ar ei anterth roedd gan Birch rhwng 50 a 60 o ddilynwyr.[2] Symudodd y Birchiaid i ffwrdd o ysbrydolrwydd pur y Muggletoniaid gan ddilyn credo o hawliau naturiol a rhyddid cydwybod.[1]
Erbyn 1788 cyhuddwyd Birch o fod yn ddiafol ac yn swynwr gan Fuggletoniaid eraill,[1] ac ym 1795 y crybwyllir ef am y tro diwethaf a hynny yn archifau'r Muggletoniaid. Tua'r flwyddyn 1800 cyhoeddodd ddau lyfr rhyfedd, a chredir iddo farw yn Hydref 1800, fwy na thebyg yn Llundain.[2] Goroesodd ei sect hyd y 1860au, pan oedd rhai Birchiaid yn Swydd Derby yn dilyn dysgeidiaeth y Muggletoniad Thomas Tomkinson,[1] ac roedd dau ddilynwr yn dal i fyw ym 1871.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 William H. Brackney (2012). Historical Dictionary of Radical Christianity. Scarecrow Press, tud. 54. URL
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Gordon, Alexander; Mercer, M. J. (2004). "Birch, James (d. 1800?)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/2428.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ 3.0 3.1 Birch, James (bu f. 1795?). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 16 Hydref 2013.