Cysyniad o hawliau hanfodol ac anamddifadwy sydd yn perthyn i bob bod dynol yw hawliau naturiol. Lluniwyd damcaniaeth hawliau naturiol yn yr 17g a'r 18g gan athronwyr Seisnig, Ffrengig, ac Americanaidd, yn bennaf John Locke, Jean-Jacques Rousseau, a Sefydlwyr yr Unol Daleithiau.

Gellir olrhain syniadau o hawliau naturiol i'r Henfyd, er enghraifft ius gentium, ffurf gyntefig ar gyfraith ryngwladol a ymarferid gan yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn y Gristionogaeth yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd y ddeddf naturiol yn gyfystyr â deddf Duw, a chredasai felly bod hawliau yn rhodd gan Dduw i bob un creadur dynol, a bod safle gymdeithasol yr unigolyn yn dibynnu ar yr hyn a bennir iddo gan ei Greawdwr. Trwy ddwyfol hawl brenhinoedd, cyfiawnhawyd awdurdod y trechaf a'i ddisgynyddion i deyrnasu dros y bobl.

Yn sgil cwymp y drefn ffiwdal a chychwyn yr Oleuedigaeth, rhoddwyd pwyslais ar hawliau naturiol yn hytrach na hawliau dwyfol. Defnyddiwyd yr enw "hawliau dwyfol" mewn cysylltiad â'r glerigiaeth a'r frenhiniaeth, a bu ganddo oblygiadau o ragorfreintiau anghyfiawn a rheolaeth y gormesdeyrn. Yn ôl syniadaeth foesol a gwleidyddol y rhesymolwyr, roedd galluoedd naturiol bod dynol i resymu, er lles ei hunan a'i gyd-ddyn, yn sail i sofraniaeth yr unigolyn. Dadleuasant felly bod yn rhaid gwaredu'r unigolyn rhag gormes y llywodraeth er mwyn ennill rhyddid a dechrau ar drywydd dedwyddwch. Yr hawliau naturiol sylfaenol ydy'r rhai sydd yn caniatáu'r unigolyn i ddefnyddio galluoedd ei feddwl a'i gorff: rhyddid barn a mynegiant, crefydda a rhyddfeddwl, ymgynnull ac ymgysylltu ag eraill, menter economaidd ac eiddo preifat, ac ymreolaeth.

Defnyddiwyd y cyfamod cymdeithasol gan Jean-Jacques Rousseau i hwyluso'r ddadl dros gymdeithas o ddinasyddion sydd yn meddu ar hawliau naturiol. Hyrwyddwyd y dadleuon dros hawliau naturiol gan athronwyr, chwyldroadwyr, a phamffledwyr gwleidyddol yn Ewrop ac America, a diogelir hawliau naturiol gan Fesur Iawnderau 1689, Datganiad Iawnderau Dyn a'r Dinesydd, a Chyfansoddiad yr Unol Daleithiau.

Gweler hefyd golygu

Darllen pellach golygu

  • B. F. Wright, American Interpretations of Natural Law (1931).