James Caan
Actor Americanaidd oedd James E. Caan (26 Mawrth 1940 – 6 Gorffennaf 2022).
James Caan | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mawrth 1940 Y Bronx |
Bu farw | 6 Gorffennaf 2022 Westwood |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, actor cymeriad, karateka, cyfarwyddwr ffilm |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt |
Taldra | 1.76 metr |
Pwysau | 75 cilogram |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Sheila Ryan |
Plant | Scott Caan |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Chwaraeon |
Yn dilyn rhannau cynnar yn El Dorado (1966), Countdown (1967) a The Rain People (1969), daeth i amlygrwydd am ei ran nodedig fel Sonny Corleone yn The Godfather (1972), ac fe'i enwebwyd am wobrau Actor Cefnogol Gorau ar gyfer Gwobrau'r Academi a Gwobr y Golden Globe. Ailgydiodd yn rhan Sonny Corleone yn The Godfather Part II (1974) gydag ymddangosiad cameo ar y diwedd.
Cafodd Caan rannau sylweddol mewn ffilmiau fel Brian's Song (1971), Cinderella Liberty (1973), The Gambler (1974), Rollerball (1975), A Bridge Too Far (1977), a Comes a Horseman (1978). Bu'n gweithio yn achlysurol mewn ffilm yn y 1980au, gyda rhannau nodedig yn Thief (1981), Gardens of Stone (1987), Misery (1990), Dick Tracy (1990), Bottle Rocket (1996), The Yards (2000), Dogville (2003), ac Elf (2003).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pulver, Andrew (7 Gorffennaf 2022). "The Godfather star James Caan dies aged 82". The Guardian (yn Saesneg).
- ↑ Koseluk, Chris (7 Gorffennaf 2022). "James Caan, Macho Leading Man of Hollywood, Dies at 82". The Hollywood Reporter (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2022.