The Godfather
Pwnc yr erthygl hon yw'r ffilm a ryddhawyd yn 1972. Am ddefnyddiau eraill, gweler Godfather.
Ffilm ddrama drosedd a ryddhawyd yn 1972 sy'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Mario Puzo yw The Godfather. Cyfarwyddwyd gan Francis Ford Coppola, ac ysgrifennwyd gan Puzo, Coppola, a Robert Towne (nid oedd enw Towne ar y glodrestr). Mae'n serennu Marlon Brando, Al Pacino, James Caan, Robert Duvall a Diane Keaton, gyda Richard S. Castellano, Abe Vigoda a Sterling Hayden mewn rhannau llai. Mae'n croniclo hanes y teulu troseddol Eidalaidd-Americanaidd Corleone dros y cyfnod 1945 i 1955. Al Martino a chwaraeodd ran y canwr Johnny Fontane, cymeriad a ddywedir ei fod yn seiliedig ar Frank Sinatra.[1]
![]() Poster theatraidd | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Francis Ford Coppola |
Cynhyrchydd | Albert S. Ruddy |
Ysgrifennwr | Nofel: Mario Puzo Sgript: Mario Puzo Francis Ford Coppola Robert Towne (heb glod) |
Serennu | Marlon Brando Al Pacino James Caan Robert Duvall Diane Keaton |
Cerddoriaeth | Nino Rota Carmine Coppola |
Sinematograffeg | Gordon Willis |
Golygydd | William H. Reynolds Peter Zinner Marc Laub Murray Solomon |
Dylunio | |
Dosbarthydd | Paramount Pictures |
Dyddiad rhyddhau | ![]() |
Amser rhedeg | 175 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $6,000,000 (amcan.) |
Olynydd | The Godfather Part II |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Gwneuthpwyd dau ddilyniant i The Godfather: The Godfather Part II yn 1974, a The Godfather Part III yn 1990.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Bruno, Anthony. Fact and Fiction in The Godfather. crimelibrary. Adalwyd ar 19 Awst 2012.