James Clare
Roedd James Arthur Clare (1857 - 4 Ionawr 1930) yn chwaraewr rygbi yn safle'r tri chwarter a anwyd yn Lloegr ond a chwaraeodd Rygbi'r Undeb rhyngwladol i Gymru a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Caerdydd. Cafodd un cap yn unig, yn yr ail ornest ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr.
Enw llawn | James Arthur Clare | ||
---|---|---|---|
Man geni | Llundain, Lloegr | ||
Lle marw | Caerdydd, Cymru | ||
Ysgol U. | Coleg Crist, Aberhonddu | ||
Gwaith | Peilot Môr |
Gyrfa rygbi
golyguGanwyd Clare yn Llundain ym 1857 ond symudodd i Benarth lle daeth yn beilot yn Nociau Caerdydd, gan dywys llongau trwy'r harbwr. Wrth weithio yn ardal Caerdydd dechreuodd chwarae rygbi i Glwb Rygbi Caerdydd. Ym 1883 dewiswyd Clare i gynrychioli ei wlad fabwysiedig pan chwaraeodd i Gymru yng ngêm agoriadol y Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref 1883 yn erbyn Lloegr. Hon oedd y drydedd gêm ryngwladol i Gymru chwarae a gêm gyntaf erioed y gêm gyntaf Pencampwriaeth y gwledydd cartref. O dan gapteiniaeth Charles Lewis, chwaraeodd Clare yn safle'r tri chwarter ynghyd â chyd aelod o dîm Caerdydd William Norton. Collodd Cymru’r gêm o ddwy gôl a phedwar cais i ddim, ac ni ddewiswyd Clare i gynrychioli Cymru eto.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [1]
- Lloegr 1883
Llyfryddiaeth
golygu- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Smith (1980), tud 465.