William Norton
Roedd William Barron Norton (28 Ebrill 1862 - 17 Rhagfyr 1898) yn chwaraewr dri chwarter rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Caerdydd[1] a rygbi rhyngwladol i Gymru . Dyfarnwyd chwe chap iddo dros Gymru.
William Norton | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ebrill 1862 Caerfyrddin |
Bu farw | 17 Rhagfyr 1898 Calabar |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Tad | Henry Norton |
Mam | Margaret Evans |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cefndir
golyguGanwyd Norton yng Nghaerfyrddin yn bumed blentyn yr Henadur Henry Norton a Margaret ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin.
Gyrfa rygbi
golyguRoedd Norton yn un o'r chwaraewyr rhyngwladol Cymreig cynharaf a chynrychiolodd ei wlad gyntaf ym 1882,[2] yng nghyfarfyddiad cyntaf erioed y tîm ag Iwerddon. O dan gapteniaeth Charles Lewis, fe aeth Norton i mewn i dîm yn cynnwys deg cap newydd, ar ôl i dîm Cymru gael eu bychanu yn eu gêm agoriadol yn erbyn Lloegr. Enillodd Cymru'r gêm gan ei wneud yn fuddugoliaeth ryngwladol gyntaf un i'r tîm. Ail-ddewiswyd Norton ar gyfer y pum gêm nesaf, gan gwblhau Pencampwriaeth y gwledydd cartref 1883 a 1884 yn eu cyfanrwydd. Collodd Cymru ddwy gêm Pencampwriaeth 1883, a dwy gêm agoriadol twrnamaint 1884, ond roeddent yn llwyddiannus yng ngêm olaf y gyfres yn erbyn Iwerddon. Yn y gêm yn erbyn Iwerddon 1884 roedd tîm Iwerddon ddau chwaraewr yn brin a gorfodwyd hwy i fenthyg dau chwaraewr o Gymru i gwblhau eu tîm. Er ei fod yn gêm olaf gyrfa ryngwladol Norton, daeth i ben trwy sgorio ei unig gais dros ei wlad.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [3]
Gyrfa
golyguWedi ymadael a'r ysgol aeth i wneud erthyglau mynegol i hyfforddi bod yn beiriannydd sifil yng Ngwaith Dŵr Caerdydd, ac wedi hynny bu am sawl blwyddyn yn gweithio i Gorfforaeth Caerdydd. Symudodd o Gaerdydd i gymryd swydd peiriannydd sifil gan Gorfforaeth Manceinion. Gwnaeth gais i'r Swyddfa Dramor am swydd yn Old Calabar, Gorllewin Affrica ar y pryd, Nigeria bellach. Roedd yn llwyddiannus, a dechreuodd ei swydd yno ym mis Awst 1898. Bu yno am ychydig fisoedd pan ddaliodd niwmonia a bu farw ym mis Rhagfyr 1898.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "TODAY'S FOOTBALL - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-11-27. Cyrchwyd 2020-06-13.
- ↑ "FOOTBALL - The Western Mail". Abel Nadin. 1882-01-30. Cyrchwyd 2020-06-13.
- ↑ Smith (1980), pg 470.
- ↑ "DEATH OF A CARMARTHEN MAN IN WEST AFRICA - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1899-01-14. Cyrchwyd 2020-06-13.