James Herbert Cory
Roedd Syr James Herbert Cory, barwnig 1af (7 Chwefror 1857 – 7 Chwefror 1933) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Caerdydd rhwng 1915 a 1918 ac AS Unoliaethol De Caerdydd rhwng 1918 a 1923.[1]
James Herbert Cory | |
---|---|
Ganwyd | 2 Chwefror 1857, 7 Chwefror 1857 |
Bu farw | 2 Chwefror 1933, 7 Chwefror 1933 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | John Cory |
Priod | Elizabeth Hoskin Wills, Elizabeth Cansh Walker |
Plant | Sir Herbert George Donald Cory, 2nd Bt., Edith Winifred Cory, Frederick Harold Cory, Edward Douglas Cory, Francis Oswald Cory, Jessie Rosalie Cory, Carmen Cory |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Cefndir
golyguGanwyd Cory yn Lannwedhenek, Cernyw yn fab i John Cory perchennog cwmni llongau a Mary ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn ysgol Trerigoni, Cernyw.
Priododd ddwywaith; ym 1879 priododd Elizabeth Hosking Wills merch George Hosking o Bideford, Dyfnaint; bu hi farw ym 1908[2] Bu iddynt 4 mab ac 1 merch. Ym 1910 priododd ei ail wraig, Elizabeth Cansh, merch Alexander Walker o Irbhinn, gogledd swydd Ayr.[3] bu iddynt dwy ferch.
Gyrfa
golyguRoedd dau deulu o ddiwydianwyr o’r enw Cory yn masnachu yn Sir Forgannwg o ganol y 18g ac mae’n hawdd eu cymysgu. Sefydlwyd cwmni Cory Brothers and Company ym 1832 gan Richard Cory[4] , doedd gan y cwmni a’r teulu hon dim cysylltiad â theulu Herbert Cory. Sefydlwyd cwmni John Cory and Sons Limited ym 1872 gan Herbert, John ei dad a John ei frawd wedi iddynt symud o Gernyw i Gaerdydd er mwyn bod yn berchnogion llongau. Erbyn i John Cory yr hynaf marw ym 1891 roedd y cwmni yn berchen ar 21 o agerlongau gyda thri arall yn cael eu hadeiladu i’r cwmni. Erbyn i’r ddau frawd marw yn y 1930au roedd dros 30 o is-gwmnïau yn perthyn i’r fam gwmni.[5]
Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar fainc Sir Forgannwg.
Gyrfa wleidyddol
golyguAr 2il Hydref 1915 lladdwyd AS Ceidwadol Caerdydd, yr Arglwydd Ninian Crichton-Stuart yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn unol â threfniant a wnaed rhwng y pleidiau ar gyfer cyfnod y rhyfel, ni fu etholiad i ddewis aelod newydd. Dewiswyd yr AS newydd gan aelodau plaid y diweddar aelod. Yn achos Caerdydd, dewisodd y Ceidwadwyr Cory i gynrychioli’r etholaeth yn y Senedd.
Ar ddiwedd y rhyfel byd diddymwyd etholaeth Caerdydd a safodd Cory yn etholaeth newydd De Caerdydd gan ei gipio. Llwyddodd i gadw’r sedd yn etholiad 1922 ond fe gollodd i’r ymgeisydd Lafur Arthur Henderson yn etholiad cyffredinol 1923.
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Forgannwg ym 1913 ac fe’i hurddwyd yn farwnig ym 1919.
Marwolaeth
golyguBu farw ar ddydd ei 76 pen-blwydd. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym Mynwent Cathays Caerdydd. Fe’i holynwyd yn y farwnigaeth gan ei fab Herbert George Donald Cory.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ‘CORY, Sir (James) Herbert’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014, adalwyd 4 Medi 2017]
- ↑ "DEATHOFMRSHERBERTCORY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-02-03. Cyrchwyd 2017-09-04.
- ↑ "FORTHCOMINGMARRIAGEOFMRJHERBERTCORY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1910-03-18. Cyrchwyd 2017-09-04.
- ↑ Y Bywgraffiadur CORY (Cory Brothers and Company Limited ) adalwyd 4 Medi 2017
- ↑ Y Bywgraffiadur CORY (John Cory and Sons Limited ) adalwyd 4 Medi 2017
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Arglwydd Ninian Crichton-Stuart |
Aelod Seneddol Caerdydd 1915-1918 |
Olynydd: diddymu’r sedd |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Sedd newydd |
Aelod Seneddol De Caerdydd 1915-1918 |
Olynydd: Arthur Henderson |