James Lovelock
Gwyddonydd, amgylcheddwr, a dyfodolwr o Loegr oedd James Ephraim Lovelock (26 Gorffennaf 1919 – 26 Gorffennaf 2022) sydd yn nodedig am ei ddamcaniaeth "Gaia", sydd yn tybio bod holl fywyd y Ddaear yn rhan o system sydd yn rheoli prosesau arwynebol ac atmosfferig y blaned. Cemegydd a meddyg ydoedd wrth ei addysg, ac er iddo ddal sawl swydd athro fe ddatblygodd ei brif syniadau yn annibynnol, y tu allan i'r byd academaidd. Enillodd enw fel awdur gwyddonol poblogaidd ac ecolegydd o nod. Roedd hefyd yn ddyfeisiwr toreithiog, a derbyniodd ryw 50 o batentau.
James Lovelock | |
---|---|
James Lovelock yn 2005 | |
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1919 Letchworth |
Bu farw | 26 Gorffennaf 2022 o complication Abbotsbury |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | biolegydd, cemegydd, academydd, mythograffydd, ecolegydd, amgylcheddwr, awdur ffuglen wyddonol, biocemegydd, futurist, independent scientist, hunangofiannydd, gwyddonydd |
Adnabyddus am | electron capture detector, Gaia hypothesis |
Tad | Tom Arthur Lovelock |
Mam | Nell March |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE, Dr A. H. Heineken Prize for Environmental Sciences, Volvo Environment Prize, Blue Planet Prize, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr Fonseca, Doethor Anrhydeddus o Brifysgol Caint, doethur anrhydeddus Prifysgol Caeredin, Medal Wollaston, Gwobr Ryngwladol Nonino, Urdd Cymdeithion Anrhydedd, Edinburgh Medal |
Gwefan | http://www.jameslovelock.org/ |
Ganed yn Letchworth Garden City, Swydd Hertford, a chafodd ei fagu yn ardal Brixton yn ne Llundain. Astudiodd gemeg ym Mhrifysgol Manceinion a derbyniodd ei radd baglor yno ym 1941. Gweithiodd i'r Cyngor Ymchwil Meddygol yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Meddygol (NIMR), yn Llundain, am ugain mlynedd.[1] Gweithiodd hefyd i Uned Ymchwil yr Annwyd yn Ysbyty Harvard, Caersallog, o 1946 i 1951. Enillodd ddoethuriaeth feddygol o Ysgol Glanweithdra a Meddygaeth Drofannol Llundain ym 1948. Gwobrwywyd iddo gymrodoriaeth deithio o Sefydliad Rockefeller i weithio ar gryo-gadwedigaeth ym Mhrifysgol Harvard o 1954 i 1955, ac ar gromatograffeg nwyon ym Mhrifysgol Yale o 1958 i 1959. Ym 1957, tra'n gweithio gyda'r biocemegydd A. J. P. Martin yn NIMR, dyfeisiodd Lovelock y canfodydd dal electronau (ECD).[2]
Penodwyd Lovelock yn athro yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Baylor, Houston, Texas, o 1961 i 1964. Yn ystod ei gyfnod yn Unol Daleithiau America, gweithiodd yn Labordy Jet-Yriant NASA yn Pasadena, Califfornia, i ddatblygu offer gwyddonol ar gyfer chwiliedyddion gofod, gan gynnwys y rhaglen Viking. Cyfrannodd Lovelock hefyd at ymdrechion MI5 i ddatblygu offer olrhain. Wedi iddo adael Prifysgol Baylor, penodwyd Lovelock yn athro gwadd gan brifysgolion Houston (1964–74) a Reading (1964–89).[2]
Cyd-ddatblygodd Lovelock ddamcaniaeth "Gaia" gyda'r biolegydd Lynn Margulis yn niwedd y 1960au a dechrau'r 1970au. Cyhoeddodd y gyfrol Gaia: A New Look at Life on Earth ym 1979. Byddai'r syniad o'r Ddaear fel uwchorganeb yn hynod o ddadleuol, ond yn raddol enillodd "Gaia" ei plwyf yn y byd academaidd. Ysgrifennodd Lovelock ragor o lyfrau yn ehangu ar ei ddamcaniaeth, gan gynnwys The Ages of Gaia (1988) a Gaia: The Practical Science of Planetary Medicine (1991).
Bu farw ar ei ben-blwydd yn 103 oed yn ei gartref yn Abbotsbury, Dorset.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Pearce Wright a Tim Radford, "James Lovelock obituary", The Guardian (27 Gorffennaf 2022).
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) James Lovelock. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2022.
- ↑ (Saesneg) Helena Horton, "James Lovelock, creator of Gaia hypothesis, dies on 103rd birthday", The Guardian (27 Gorffennaf 2022).