Roedd James Edward "Jim" Webb (15 Ionawr 18638 Chwefror 1913) yn Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol a oedd yn chwarae rygbi clwb i Gasnewydd a rygbi rhyngwladol i Gymru.

James Webb
Ganwyd15 Ionawr 1863 Edit this on Wikidata
Broughton Gifford Edit this on Wikidata
Bu farw8 Chwefror 1913 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
SafleCefnwr Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Webb yn Broughton Gifford, Wiltshire yn blentyn i Jesse Webb, llafurwr, a Mary Anne ei wraig. Symudodd y teulu i Gasnewydd yn ystod ei blentyndod a chafodd ei addysgu yn ysgol elfennol y Maendy. O ran ei waith pob dydd roedd Webb yn beintiwr ac addurnwr tai.

Gyrfa rygbi

golygu

Tîm cyntaf Webb oedd y Newport Crusaders. Pan ddaeth y Crusaders i ben ymunodd â chlwb Maendy. Ymunodd ag ail dim Casnewydd ym 1883 gan gael ei alw i chware i'r tîm cyntaf yn erbyn Castell Nedd ar gyfer gêm Dydd Gŵyl San Steffan 1884.[1] Fe’i dewiswyd gyntaf i chwarae i Gymru yn erbyn tîm teithiol cyntaf Hemisffer y De, y Maorïaid Seland Newydd. O dan gapteiniaeth Frank Hill, roedd Cymru yn fuddugol dros y twristiaid ar faes Sant Helen, Abertawe ond adroddwyd bod y chwaraewyr cefn Cymreig i gyd yn amlwg nerfus wrth wynebu'r twristiaid, heblaw am Webb a 'Buller' Stadden.[2] Cafodd Webb gêm ragorol, gan gwblhau trosiad ar ôl cais gan William Towers o Abertawe. Ymgeisiodd Webb sgorio gôl gosb o'r llinell hanner ffordd, gan fethu o drwch blewyn; ac roedd yn ddi-fai yn rôl y cefnwr, rôl nad oedd yn gyfarwydd â hi.[3] Bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar 26 Rhagfyr, wynebodd Webb yr un tîm teithiol, y tro hwn fel rhan o dîm ei glwb, Casnewydd. Yn wynebu torf lawer mwy nag a oedd yn bresennol yng ngem Cymru, collodd Casnewydd 3 chais i ddim yn erbyn tîm llawer mwy corfforol Māori.[4]

Roedd ail gêm a gêm olaf Webb dros Gymru yn erbyn yr Alban fel rhan o Bencampwriaeth y Cenhedloedd Cartref 1889. Collodd Cymru'r ornest ac ni chafodd Webb ei ail-ddewis ar gyfer gemau rhyngwladol Cymreig eto. Parhaodd i chware i dîm cyntaf Casnewydd hyd dymor 1891-1892 gan ymddeol ar ôl y chwe gêm gyntaf. Ym 1892 ail ymunodd â'r ail dîm gan gael ei ddyrchafu'n gapten y tîm ym 1893.[5]

Ar ôl rhoi'r gorau i chware, bu Webb yn hyfforddwr tîm Ysgolion Casnewydd [6] ac fe fu'n dyfarnwr hyd ei farwolaeth.[7]

Gemau rhyngwladol

golygu

Ym 1890 priododd Webb â Mary Anne Morgan yng Nghasnewydd iddynt 4 o blant.

Llyfryddiaeth

golygu
    • Billot, John (1972). All Blacks in Wales. Trerhondda, Morgannwg: Ron Jones Publications.
    • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Grafton Street, Llundain: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
    • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "NEATH AND DISTRICT - The Cambrian". T. Jenkins. 1884-12-26. Cyrchwyd 2020-10-13.
  2. Billot (1972), pg 17.
  3. Billot (1972), pg 18.
  4. Billot (1972), pg 20.
  5. "MR J E WEBB NEWPORT 2ND - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1893-10-02. Cyrchwyd 2020-10-13.
  6. "J E WEBB Newport - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-04-21. Cyrchwyd 2020-10-13.
  7. "FootballI - The Rhondda Leader". William David Jones. 1912-03-09. Cyrchwyd 2020-10-13.
  8. Smith (1980), pg 473.