Buller Stadden

chwaraewr rugbi'r undeb Cymreig

Roedd William James Wood, "Buller" Stadden (1861 - 30 Rhagfyr 1906) yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol dros Gymru ac yn lofrydd. Roedd yn chware yn safle'r hanerwr. Bu'n chware rygbi clwb dros dimau Treganna, Caerdydd a Dewsbury. Enillodd Stadden wyth cap dros Gymru dros gyfnod o saith mlynedd ac fe'i cofir fwyaf am sgorio'r cais buddugol ym 1890 i roi i Gymru ei fuddugoliaeth gyntaf dros Loegr ac am lofruddio ei wraig cyn gyflawni hunanladdiad.

Buller Stadden
Ganwyd1861 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw30 Rhagfyr 1906 Edit this on Wikidata
Dewsbury Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Dewsbury Rams Edit this on Wikidata
SafleMewnwr, maswr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Stadden yn Nhreganna, Caerdydd yn fab i William Stadden, llafurwr ac Emma ei wraig. Roedd ei rieni yn hanu o Wlad yr Haf. Bu Stadden yn gweithio yng ngwaith papur Elai cyn cael ei gyflogi fel labrwr gan gwmni adeiladu John Gibson. Fel adeiladwr bu'n gweithio ar adeiladu’r eisteddle ym Mharc yr Arfau.[1]

Gyrfa rygbi

golygu

Fe wnaeth Stadden wneud ei ymddangosiad gyntaf dros Gymru yn erbyn yr Iwerddon ym 1884 [2] dan gapteiniaeth Joe Simpson ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad. Sgoriodd Stadden gôl adlam yn y gêm.[3] Arweiniodd gôl Stadden ynghyd â cheisiadau gan William Norton a Tom Clapp, at fuddugoliaeth gyntaf Cymru yng Nghymru. Ni ddewiswyd Stadden ar gyfer y twrnamaint nesaf, ond adenillodd ei le ym 1886 gan chwarae yn y ddwy gêm yn y gyfres yn erbyn Lloegr a'r Alban. Collodd Cymru'r ddwy, ond llwyddodd Stadden i sgorio eto, y tro hwn gyda chais, yn y gêm agoriadol yn erbyn Lloegr.[4]

Ym mis Medi 1886, ymadawodd Stadden, â chyd-aelod o dîm Caerdydd, Angus Stuart, â Chaerdydd gan symud i Dewsbury yng Ngorllewin Swydd Efrog, gan honni nad oedd unrhyw gyfleoedd cyflogaeth iddynt yng Nghymru. Canfuwyd yn ddiweddarach eu bod yn gweithio i gwmni tecstilau oedd yn eiddo i lywydd clwb Dewsbury.[5] Parhaodd i chwarae i Gymru ac i Swydd Efrog. Ef oedd y chwaraewr Cymreig cyntaf i'w "brynu" gan glwb yn Lloegr ac fe ddatblygodd yn seren yn Swydd Efrog, y tîm gorau yn Lloegr ar y pryd.[6]

Roedd dwy gêm nesaf Stadden i Gymru yn erbyn Iwerddon fel rhan o Bencampwriaeth 1887, mewn partneriaeth â John Goulstone Lewis, a'r Alban ym 1888 gyda Jem Evans, cyd aelod o dîm Caerdydd. Bu Cymru'n fuddugol yn y ddwy. Ym 1888 bu Cymru'n wynebu tîm tramor ar daith am y tro cyntaf pan ymwelodd tîm brodorion Seland Newydd a Phrydain, bu Cymru'n fuddugol. Daeth gemau olaf Stadden i Gymru ym Mhencampwriaeth rygbi'r Pedair Gwlad 1890. Collwyd y gêm yn erbyn yr Alban ar Barc yr Arfau. Yr ail gêm oedd buddugoliaeth gyntaf erioed Cymru dros Loegr [6]. Stadden oedd arwr y gêm ar ôl sgorio unig bwynt y gêm a chwaraewyd yn Dewsbury.

 
Y tîm rygbi Gymreig gyntaf i Guro Lloegr, 1890

Gemau Rhyngwladol

golygu

Marwolaeth

golygu

Ar noson y Nadolig 1906 tagodd Stadden ei wraig i farwolaeth yn eu gwely, wedyn ceisiodd torri ei wddf ei hun, cyn troi ei hun drosodd i'r heddlu. Bu farw tridiau yn ddiweddarach o'i anafiadau [8]. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Dewsbury.[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "STADDENSCAREER - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1906-12-29. Cyrchwyd 2018-11-26.
  2. "WELSH FOOTBALL UNION - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1884-03-31. Cyrchwyd 2018-12-09.
  3. "FOOTBALL - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1884-04-19. Cyrchwyd 2018-12-09.
  4. "FOOTBALL - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1886-01-09. Cyrchwyd 2018-12-09.
  5. "PROFESSIONAL FOOTBALL - The Western Mail". Abel Nadin. 1886-10-02. Cyrchwyd 2018-12-09.
  6. 6.0 6.1 Western Mail 14 mai 2011 Buller, hero of 1890 try adalwyd 9 Rhagfyr 2018
  7. Buller Staddan proffil chwaraewr Scrum.com
  8. "A MURDERER'S DEATH - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1907-01-05. Cyrchwyd 2018-12-09.
  9. "STADDEN LAID TO REST - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1907-01-02. Cyrchwyd 2018-12-09.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Billot, John (1972). All Blacks in Wales. Ferndale, Glamorgan: Ron Jones Publications.
  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883–1983. Grafton Street, London: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, Terry (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Budd, Terry (2017). That Great Little Team On The Other Side Of The Bridge:The 140 Year History of Canton RFC (Cardiff) Season 1876-77 to 2016-17. Penarth, Glamorgan: Beacon Printers Ltd.