James o St George
pensaer Ffrengig a aned yng Nghymru
Pensaer milwrol Edward I, brenin Lloegr oedd Jacques de Saint-Georges d'Espéranche neu James o St George (tua 1230 - 1309). Cafodd ei eni yn Saint-Prex sydd bellach yn rhan o Vaud yn y Swistir. Roedd yn frodor o Savoie, rhanbarth hanesyddol sy'n cynnwys rhannau o'r Swistir, Ffrainc a'r Yr Eidal erbyn hyn.
James o St George | |
---|---|
Ganwyd | c. 1230 Saint-Prex |
Bu farw | 1309 Mostyn |
Dinasyddiaeth | Cymru, Safwy |
Galwedigaeth | pensaer |
Adnabyddus am | Yverdon-les-Bains Castle |
Roedd James yn cael ei ystyried fel pensaer milwrol pennaf ei gyfnod. Cynlluniodd sawl castell consentrig, er enghraifft Castell Caernarfon, Castell Harlech, Castell Conwy a Chastell Biwmares yng ngogledd Cymru[1]. Roedd yn gwnstabl cyntaf Castell Harlech, hefyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Davies, John (2007). Hanes Cymru. t. 154. ISBN 9780140284768.