Ymgyrchydd iaith Gymraeg o Ferthyr Tudful ac aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yw Jamie Bevan (enw llawn Gareth Jamie Bevan).[1] Gwrthododd Jamie dalu £1,000 o iawndal a chostau i Lys Ynadon am iddo dorri i mewn i swyddfeydd y Blaid Geidwadol yng Ngogledd Caerdydd ddiwrnod cyn ymweliad David Cameron. Gwnaeth hyn oherwydd ei gred fod San Steffan yn anwybyddu S4C.

Jamie Bevan
Jamie Bevan yn annerch y dorf cyn ei ddedfryd ym mis Awst 2012
GanwydGareth Jamie Bevan Edit this on Wikidata
20 g Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd Edit this on Wikidata

Cwynodd 3 gwaith am ohebiaeth uniaith Saesneg gan Wasanaeth y Llysoedd, ond fe gafodd orchymyn llys uniaith Saesneg.[2]

Cafodd Bevan ei ddedfrydu i 35 diwrnod yn y carchar gan ynadon Merthyr Tudful yn 2012. Dywedodd ei fod am ddefnyddio'r achos i dynnu sylw at ohebiaeth uniaith Saesneg a dderbyniodd gan y llysoedd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gareth Jamie Bevan, Man Who Trashed Conservative MP's Office Over S4C, Jailed. Huffington Post (23 Awst 2011).
  2. "Gwefan Cymdeithas yr Iaith; adalwyd 13/08/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-23. Cyrchwyd 2012-08-13.
  3.  Jamie Bevan: 35 diwrnod o garchar. Golwg360 (13 Awst 2012).