Janan Harb
Mae Janan George Harb (Arabeg: جنان حرب; ganwyd 1947) yn gyn-wraig i'r Brenin Fahd o Saudi Arabia.[1][2]
Janan Harb | |
---|---|
Ganwyd | 1947 Palesteina |
Dinasyddiaeth | Palesteina |
Priod | Fahd |
Llinach | Llinach Saud |
Bywgraffiad
golyguGaned Janan Harb yn Ramallah, Palestina, ym 1947 i deulu Arabaidd Cristnogol.[3] Cyfarfu â'r Tywysog Fahd mewn parti yn Jeddah yn Rhagfyr 1967.[3] Fe briodon nhw mewn seremoni gyfrinachol yn Jeddah ym Mawrth 1968, a throdd i Islam ychydig cyn y briodas.[3][4] Roeddent yn byw yn Jeddah a Llundain yn ystod eu priodas. Cyflwynodd rai o'i ffrindiau i'r Tywysog Fahd a oedd yn weinidog mewnol yn ystod y cyfnod hwnnw i'w galluogi i gael swyddi neu fisâu.[3][5]
Dywed iddi gael ei gorfodi gan aelodau o'r teulu brenhinol (gynnwys y Tywysog Salman a'r Tywysog Turki, brodyr llawn y Tywysog Fahd) i adael Saudi Arabia ym 1970.[4] Roeddent o'r farn ei bod yn gyfrifol am gaethiwed y Tywysog Fahd i'r cyffyr methadon yr oedd wedi dechrau ei ddefnyddio yn dilyn poenau stumog cronig ym 1969.[3] Mae hi'n gwadu hyn.[3] Gadawodd Harb Saudi Arabia ac aeth yn gyntaf i Beirut ac oddi yno i UDA.[3] Yn 1974 priododd gyfreithiwr o Libanus ac mae ganddyn nhw ddwy ferch gyda.[6]
Er mawr embaras i deulu brenhinol Saudi, yn 2004, flwyddyn cyn marwolaeth Fahd, lansiodd hawliad cynhaliaeth ysgardiad o £400m yn erbyn y Brenin Fahd,[2] ond yn 2016 collodd yr achos.[6]
Llyfr
golyguCyhoeddodd Janan Harb lyfr o'r enw The Saudi King and I lle mae ei pherthynas â'r Brenin Fahd yn cael ei ddisgrifio'n fanwl. Mae'r stori wedi'i gwerthu i'w droi'n ffilm sy'n dwyn y teitl dros dro The Sins of King Fahd, a phostiwyd rhagflas tair munud o'r ffilm ar YouTube.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The King and I". The Times. 8 August 2007. Cyrchwyd 25 May 2012.
- ↑ 2.0 2.1 "Bankrupt Former wife of Saudi king seeks £12m from prince - London socialite alleges a secret royal marriage, hush money and dodgy defence contracts". The Independent. 27 September 2009. Cyrchwyd 25 May 2012.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 "Harb v HRH Prince Abdulaziz". Casemine. Cyrchwyd 22 November 2020.
- ↑ 4.0 4.1 "Saudi prince's ex-wife stripped of $17m after losing appeal". Middle East Eye. 19 June 2016. Cyrchwyd 22 November 2020.
- ↑ Steffen Hertog (April 2010). "The Sociology of the Gulf Rentier Systems: Societies of Intermediaries". Comparative Studies in Society and History 52 (2): 282–318. doi:10.1017/S0010417510000058. JSTOR 40603088. https://www.jstor.org/stable/pdf/40603088.pdf?casa_token=zCsLLSO0SNAAAAAA:ykbmLgdyf739r_ZG_Dh_siiXs4Gc3RAoFjP98k5ekTz0hle7l1NjbFdsuu1-zVn_RCn1sDh9OZ93caJ3GVO1ZQWNBBrlH7wdoS8AOKLM1ZNVtTsB1js.
- ↑ 6.0 6.1 "Woman claiming to be late Saudi king's 'wife' loses legal battle". Business Standard. London. 16 June 2016. Cyrchwyd 22 November 2020.
- ↑ MiddleeastEye: Trailer released for film about the ‘secret lives’ of Saudi royals