Jane Dee

gwraig John Dee

Boneddiges breswyl i Elisabeth I, brenhines Lloegr oedd Jane Dee (née Fromond) (22 Ebrill 15551604).[1] Ganwyd hi yn Cheam, Surrey i Bartholomew Fromond.[2][3][4] Gan i'w gŵr, y Cymro John Dee, gadw dyddiaduron manwl, gwyddom lawer amdani ac am ei chartref a'i theulu. Mae'n debyg i'w chysylltiadau agos gyda llys Elisabeth 1af (neu'r 'Sidanes' fel y'i gelwid gan Gymry ei hoes) gynorthwyo ei gŵr i gyrraedd ei safle uchel ac agos at y frenhines. Ail-wraig John Dee ydoedd Jane a chafodd wyth o blant.

Jane Dee
GanwydJane Fromands Edit this on Wikidata
1555 Edit this on Wikidata
Bu farw1604 Edit this on Wikidata
Galwedigaethboneddiges breswyl Edit this on Wikidata
PriodJohn Dee Edit this on Wikidata
PlantArthur Dee Edit this on Wikidata

Priodi

golygu

Priodwyd Jane a John yn 1578 pan oedd hi'n 23 ac yntau'n 51. Roedd John yn athronydd naturiol a oedd yn ymarfer sawl gwyddor gwahanol gan gynnwys dewiniaeth, athroniaeth, proffwydoliaeth ac alcemi - y gair modern agosaf at hyn heddiw fyddai 'gwyddoniaeth'. Cedwir llawer o'i lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 
John Dee

Roedd yn cynghori Elisabeth mewn sawl maes, gan gynnwys dynodi diwrnod ei choroni; cynghorai hefyd lawer o uchelwyr Seisnig.[5] Wedi iddynt briodi, symudodd y ddau i gartref John yn Mortlake, yn ne-orllewin Llundain.

 
Mortlake Green

Roedd ganddynt nifer helaeth o weision a morynion, a gwaith Jane, gan fwyaf, fyddai cadw trefn arnynt. Croesawodd lawer o ymwelwyr i'w chartref - llawer iawn ohonyn nhw'n dod yno i weithio neu i arsylwi ar arbrofion gwyddonol John. Teithiodd hi, ei gŵr i Wlad Pwyl yn 1584 i weithio i'r uchelwr Albertus Laski. Yno y ganwyd mab iddi, yn Kraków, cyn ymuno â'i gŵr ym Mhrague.[6]

Gwyddom lawer iawen amdani, oherwydd dyddiaduron ei gŵr: y trafodaethau rhyngddynt, eu dadleuon, eu cwerylon a manylion lleiaf un am eu crtref. Mae disgrifiadau fel hyn o fywyd merch yn yr oes hon yn beth prin iawn.[7]

Arbrofion

golygu

Mae dyddiaduron John yn ddisgrifiadau manwl a chofnodir ynddynt misglwyf Jane, eu cyfathrach rywiol a genedigaethau eu plant. Cofnodir, mewn un, erthyliad un o'r babanod, er mwyn i John ddeall y broses o genhedlu'n well.[8]

Yn 1582, dechreuodd John gyfathrebu gydag 'angylion' gyda chydweithiwr a chyfaill iddo, sef Edward Kelly (alias Talbot). Doedd gan Jane fawr o feddwl o Kelly o'r cychwyn a chofnodir drwg-deimlad y ddau at ei gilydd gan John. Pan briododd Kelly ferch ifanc o'r enw Joanna Cooper, fe'i hesgeuluodd hi, a daeth drwg-deimlad Jane yn atgasedd pur at Kelly. Roedd ei chydymdeimlad llwyr gyda Joanna.[9]

Yn 1585, gofynnodd Jane i Kelly am gymorth er mwyn iddi gynnal sgwrs gyda'r angylion. Gofynnodd i'r angylion am gymorth ariannol, gan nad ganddynt lawer o arian. Yn ôl John Dee, gofynnodd Jane:

We desire, God, of his greate and infinite mercies to grant us the helpe of His hevenly mynisters, that we may by them be directed how or by whom to be ayded and released in this neccessitie for meate and drinke for us and for our familie, wherewith we stand at this instant much oppressed.[10]

Chwaraeodd Jane ran bwysicach fyth yn arbrofion ei gŵr yn 1587, pan roedd y ddau deulu'n byw yn Třeboň, yn yr hyn a elwir heddiw yn Weriniaeth Tsiec. Honodd Kelly fod yr angylion 'Madimi' ac 'Ill' wedi ei hysbysu y dylai'r ddau gwpwl gyfnewid gwragedd. Ar y cyhwyn, gwrthwynebodd John yn hallt, ond newidiodd ei feddwl oherwydd dyfalbarhad yr angylion (drwy Talbot). Pan hysbysodd John ei wraig, 'disgynnodd hi i'r llawr yn llefain ac mewn gwewyr o gryndod am chwarter awr'. Fe'i darbwyllwyd gan John, pan fynnodd ef mai hyn oedd ewyllys Duw, ac y dylai'r ddau ddyn rannu'r cyfan a oedd ganddynt. Arwyddodd y ddau gwpwl gytundeb, cyfnewidiwyd partneriaid a chafwyd cyfathrach rywiol.

 
Llun dau ddewin ac angel gan Edward Kelly

Cyfeiriadau

golygu
  1. John Parsons Earwaker (1880). Local Gleanings: An Archaeological and Historical Magazine Chiefly Relating to the Lancashire and Cheshire (yn Saesneg). t. 51.
  2. Deborah Harkness, Managing an Experimental Household: the Dees of Mortlake and the Practice of Natural Philosophy,Isis, 88:2 (1997), tud.251
  3. William H. Sherman, John Dee: the Politics of Reading and Writing in the English Renaissance (Amherst, 1995), p.7
  4. Sherman, p.7
  5. R. Julian Roberts, ‘Dee, John (1527–1609)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Mai 2006 adalwyd 29 Ionawr 2015
  6. (Letchworth, 1968), p.190-2
  7. Julian Roberts, ed. (2005). A John Dee Chronology, 1509–1609". Renaissance Man: The Reconstructed Libraries of European Scholars: 1450–1700 Series One: The Books and Manuscripts of John Dee, 1527–1608. Adam Matthew Publications
  8. Harkness, p.256
  9. Susan Bassnett, 'Absent Presences: Edward Kelley's Family in the Writings of John Dee' in Stephen Clucas (ed.), John Dee: Interdisciplinary Studies in English Renaissance Thought (Dordrecht, 2006), pp 227-8
  10. Deacon, p. 192