Agor y brif ddewislen

Ardal faestrefol ym Mwrdeistref Llundain Richmond upon Thames, Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy Mortlake.[1] Saif ar ochr deheuol Afon Tafwys rhwng Kew a Barnes tua 6.8 milltir (10.9 km) i'r gorllewin-dde-orllewin o ganol Llundain.[2]

Mortlake
St Mary Magdalene Church, Mortlake (geograph 3304764).jpg
Math ardal o Lundain Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Llundain Fwyaf
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 4.5 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Tafwys Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.4655°N 0.2643°W Edit this on Wikidata
Cod OS TQ205755 Edit this on Wikidata
Cod post SW14 Edit this on Wikidata

Roedd Mortlake yn rhan o Surrey tan 1965.

EtymolegGolygu

Mae cyfeirio at Mortlake yn y Llyfr Dydd y Farn 1086 fel Mortelage. Eiddo archesgop Lanfranc Caergaint oedd hi. Credir bod Mortelage yn golygu nant fechan sy'n cynnwys eogiaid ifainc, ffrwd oedd yn arwain i Afon Tafwys.

HanesGolygu

O gyfnod y Llyfr Dydd y Farn, roedd hi'n eiddo bob Archesgob Caergaint tan amser Harri VIII, pan ddaeth yn eiddo'r Goron. O'r 17g ymlaen daeth yn enwog am ei brodwaith, ffatri a sefydlwyd ar safle hen dŷ John Dee.

Trigolyn enwocaf Mortlake oedd cynghorydd agos y frenhines Elisabeth I sef John Dee. Cafodd ei gladdu ym mynwent y dref – St Mary Magdalene lle mae hefyd bedd rhyfedd (siap pabell) yr awdur a theithiwr Sir Richard Burton, ac mae llwch y digrifwr Tommy Cooper ym Mortlake Crematorium.

Ers 1845, dechreir y ras cychod enwog y Ras Cychod Rhydychen a Chaergrawnt ym Mortlake, o University Boat Race stone islaw Chiswick Bridge. Dyma'r man cychwyn ambell i ras arall dros Championship Course.

Cysylltiad â ChymruGolygu

Roedd John Dee yn enwog fel polymath. Mathemategydd a oedd hefyd yn ymddiddori mewn dewiniaeth, a greodd iaith gyfrin i guddio ei waith rhag y byd. Casglodd lyfrgell breifat fwyaf ei gyfnod yn ei dŷ ym Mortlake. O dras Cymreig, does dim sôn am iddo siarad Cymraeg, ond daeth yn agos iawn at teulu'r Cecils – a oedd hefyd yn hanu o Gymru.

Hawliodd Dee mai Madog ab Owain Gwynedd a ddarganfuwyd cyfandir Amerig a hynny yn 1170. Dee hefyd sy'n gyfrifol am enwi ymerodraeth Lloegr yn "British Empire" sef ar y pryd Cymru a Lloegr.

FfynonellauGolygu

  • (Saesneg) Lloyd, J. E.; Jones, J. Gwynfor (2004). "Madog ab Owain Gwynedd (supp. fl. 1170)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online.). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/17763. (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  • Mills, A., Oxford Dictionary of London Place Names (2001)
  • Roberts, Julian, ed. (2005). "A John Dee Chronology, 1509–1609, in Renaissance Man: The Reconstructed Libraries of European Scholars: 1450–1700 Series One: The Books and Manuscripts of John Dee, 1527–1608 (Marlborough, 2004)

CyfeiriadauGolygu

  1. British Place Names; adalwyd 3 Mai 2019
  2. Yn draddodiadol, ystyrir Charing Cross fel canol Llundain, a mesurir pellteroedd i'r brifddinas o'r pwynt hwnnw.

Gweler hefydGolygu