Jane Misme
Ffeminist a swffragét o Ffrainc oedd Jane Misme (21 Mawrth 1865 - 23 Mai 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr ac am ei hymgyrch dros hawliau merched. Hi oedd sefydlydd y cylchgrawn La Française (Y Ferch Ffrengig) a gyhoeddwyd rhwng 1906 a 1934. Roedd yn un o swyddogion yr Undeb Ffrengig o Etholfraint Merched, ac ar Gyngor Cenedlaethol Menywod Ffrainc.
Jane Misme | |
---|---|
Ganwyd | Jeanne Marie Joséphine Maurice 21 Mawrth 1865 Valence |
Bu farw | 23 Mai 1935 16ain bwrdeistref Paris |
Man preswyl | Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, golygydd |
Plant | Clotilde Brière-Misme |
Fe'i ganed yn Valence, Drôme ar 21 Mawrth 1865; bu farw yn 16ain bwrdeistref o Baris.[1][2][3][4][5][6]
Yn Ionawr 1893 sefydlodd Jeanne Schmahl gymdeithas o'r enw Avant-Courrière (Y blaen-redwr) a alwai am roi'r hawliau i fenywod. I roi hyn mewn perspectif, ni sefydlwyd y Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched yn Lloegr tan 1903, flynyddoedd yn ddiweddarach.[6] Ymunodd llawer o fenywod y dosbarth canol ac uwch gyda'r mudiad newydd hwn, ac yn eu plith Anne de Rochechouart de Mortemart (1847–1933), duges Uzès, Juliette Adam (1836–1936) a Jane Misme a Jeanne Chauvin (1862–1926), y fenyw gyntaf i dderbyn doethuriaeth yn y gyfraith.[6]
Newyddiadurwr
golyguDaeth Jane Misme yn newyddiadurwr pan oedd tua tri-deg oed, gan ysgrifennu o 1896 i 1906 mewn papurau newydd fel Le Figaro, Le Matin a'r Revue de Paris. Roedd ei herthyglau'n cynnwys pynciau fel rolau cymdeithasol menywod yn y gorffennol, a'r gyrfaoedd newydd a oedd ar gael i fenywod. Roedd hefyd yn feirniad drama ar gyfer La Fronde a L'Action o 1899 i 1905.[5] [7]
Sefydlwyd Undeb Etholfraint Menywod Ffrainc (Union française pour le suffrage des femmes; UFSF) gan grŵp o ffeministiaid a oedd wedi mynychu cyngres genedlaethol ffeministiaid Ffrengig ym Mharis ym 1908. Roedd y rhan fwyaf ohonynt o gefndiroedd bourgeois neu ddeallusol. Yr arweinwyr oedd Jeanne Schmahl a Jane Misme. Cynhaliwyd cyfarfod o 300 o fenywod ym mis Chwefror 1909 ac etholwyd Cécile Brunschvicg (1877–1946) yn ysgrifennydd cyffredinol. Schmahl oedd y llywydd cyntaf a Misme oedd is-lywydd yr UFSF o 1909 i 1935. Ymddiswyddodd Schmahl o'r UFSF yn 1911 oherwydd anghydfodau gyda Cécile Brunschvicg, er mai'r rheswm a roddwyd oedd problemau iechyd. Arhosodd Jane Misme gyda'r UFSF, a oedd â 12,000 o aelodau erbyn 1914.[8][9][8][8]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Undeb Ffrainc dros Hawl Merched i Bleidleisio a Chyngor Cenedlaethol Merched Ffrangeg am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyhoeddiadau dewisol
golygu- Jane Misme (1900). Les Héroïnes historiques au théâtre Charlotte Corday. t. 10.
- Mme. Jane Misme (1909). Pour le suffrage des femmes ... Par la française. t. 40.
- Jane Misme (1917). Les derniers maitres d'Urville: histoire d'une famille messine.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb102221580. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. dynodwr BnF: 102221580. "Jane Misme". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb102221580. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. dynodwr BnF: 102221580. "Jane Misme". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 5.0 5.1 Jane Misme, Archives du Féminisme.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Metz 2007.
- ↑ Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 Hause 2002.
- ↑ Tartakowsky 2015.
- Allen, Ann Taylor (2005-07-01). Feminism and Motherhood in Western Europe, 1890-1970: The Maternal Dilemma. Palgrave Macmillan. ISBN 978-1-4039-8143-1. Cyrchwyd 2015-03-29.CS1 maint: ref=harv (link)
- Camiscioli, Elisa (1999). "Intermarriage, Independent Nationality, and the Individual Rights of French Women: The Law of 10 August 1927". French Politics, Culture & Society (Berghahn Books) 17 (3/4 Summer/Fall 1999, Special Issue: The Politics of the Family in France). JSTOR 42843081.
- Comité d’initiative, CNFF (10 April 1901), Procès-verbal, Conseil national des femmes françaises, Centre des Archives du Féminisme 2 AF 3
- "Current Opinion". The Biblical World (The University of Chicago Press) 49 (2). Chwefror 1917. JSTOR 3136465.
- Fell, Alison S. (2007). "Fallen Angels? The Red Cross Nurse in French First World War Discourse". The Resilient Female Body: Health and Malaise in Twentieth-century France. Peter Lang. ISBN 978-3-03910-521-2. Cyrchwyd 2015-03-28.CS1 maint: ref=harv (link)
- Grayzel, Susan R. (Chwefror 1997). "Mothers, Marraines, and Prostitutes: Morale and Morality in First World War France". The International History Review (Taylor & Francis) 19 (1). JSTOR 40108084.
- Hause, Steven C. (2002). "Union Française Pour Le Suffrage Des Femmes (UFSF)". In Helen Tierney (gol.). Women's Studies Encyclopedia. Greenwood Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-08. Cyrchwyd 2015-03-13.CS1 maint: ref=harv (link)
- Hause, Steven C.; Kenney, Anne R. (October 1981). "The Limits of Suffragist Behavior: Legalism and Militancy in France, 1876-1922". The American Historical Review (Oxford University Press on behalf of the American Historical Association) 86 (4). doi:10.1086/ahr/86.4.781. JSTOR 1860134.
- "Historique". CNFF. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 2015-03-08.
- "Jane Misme". Archives du Féminisme. Cyrchwyd 2015-03-28.
- Metz, Annie (December 2007). "Jeanne Schmahl et la loi sur le libre salaire de la femme" (yn French). Bulletin du Archives du Féminisme (13). http://www.archivesdufeminisme.fr/ressources-en-ligne/articles-et-comptes-rendus/articles-historiques/metz-jeanne-schmahl-loi-libre-salaire-femme/. Adalwyd 2015-03-22.
- "New Woman's Paper In France". The Daily Republican (Monongahela, Pennsylvania): 2. 1907-01-07. https://www.newspapers.com/image/53117207/?terms=%22jane%2Bmisme%22. Adalwyd 28 Mawrth 2015.
- Offen, Karen (December 2005). "La plus grande féministe de France ». Mais qui est donc Madame Avril de Sainte-Croix ?" (yn French). Bulletin Archives du féminisme (9). http://www.archivesdufeminisme.fr/ressources-en-ligne/articles-et-comptes-rendus/articles-historiques/offen-k-grande-feministe-france-mme-avril-sainte-croix/. Adalwyd 29 Mawrth 2015.
- Roberts, Mary Louise (2002-10-01). Disruptive Acts: The New Woman in Fin-de-Siecle France. University of Chicago Press. ISBN 978-0-226-72124-8. Cyrchwyd 2015-03-28.CS1 maint: ref=harv (link)
- Shearer, Joanna (2007). "French Women's First World war Political Journalism: War's Impact on the female Body". The Resilient Female Body: Health and Malaise in Twentieth-century France. Peter Lang. ISBN 978-3-03910-521-2. Cyrchwyd 2015-03-28.CS1 maint: ref=harv (link)
- Tartakowsky, Danielle (2015). "Les françaises veulent voter". L’Histoire par l’image (yn French). Cyrchwyd 2015-03-13.CS1 maint: ref=harv (link) CS1 maint: unrecognized language (link)
- "The Woman Movement In France and Its Leader". The Brooklyn Daily Eagle (New York). 1911-09-04. https://www.newspapers.com/image/53899196/. Adalwyd 2015-03-23.
- Williams, Tami Michelle (2007). Beyond Impressions: The Life and Films of Germaine Dulac from Aesthetics to Politics. ProQuest. ISBN 978-0-549-44079-6. Cyrchwyd 2015-03-28.CS1 maint: ref=harv (link)