Jane Seymour
trydedd gwraig Harri VIII, brenin Lloegr
Jane Seymour (1507/1508 – 24 Hydref 1537) oedd trydedd gwraig Harri VIII, brenin Lloegr, a brenhines Lloegr ers Mai 1536. Rhoddodd enedigaeth i fab, Edward (Edward VI yn ddiweddarach) ond fe drawyd yn wael a bu farw chwe diwrnod wedyn.
Jane Seymour | |
---|---|
Ganwyd | 1508 |
Bu farw | 24 Hydref 1537 o puerperal infection Palas Hampton Court |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | boneddiges breswyl |
Tad | John Seymour |
Mam | Margery Wentworth |
Priod | Harri VIII |
Plant | Edward VI |
Perthnasau | Mari I, Elisabeth I |
Llinach | House of Seymour |
llofnod | |
Cafodd ei geni yn Swydd Wilton, merch Syr John Seymour a'i wraig Margaret. Chwaer Thomas Seymour, Arglwydd Seymour o Sudeley, ac Edward Seymour, Dug Gwlad yr Haf, oedd hi.