Edward VI, brenin Lloegr
Edward VI (12 Hydref 1537 – 6 Gorffennaf 1553) oedd Brenin Lloegr rhwng 28 Ionawr 1547 a'i farwolaeth yn 1553 pan oedd yn 16 oed.[1] Coronwyd ef yn frenin ar 20 Chwefror pan oedd yn naw mlwydd oed. Edward oedd mab Harri VIII a Jane Seymour, a theyrn cyntaf Lloegr a gafodd ei fagu'n Brotestant.[2] Yn ystod ei deyrnasiad byr rheolwyd y deyrnas gan Gyngor Rhaglywiaeth oherwydd nad oedd yn ddigon aeddfed i reoli yn annibynnol. Arweiniwyd y cyngor hwn yn gyntaf gan ei ewythr Edward Seymour, 1af Iarll Gwlad yr Haf (1547 – 1549) ac yna gan John Dudley, Iarll 1af Warwick (1550 – 1553), a oedd hefyd yn Ddug Northumberland o 1551 ymlaen.[1][3]
Edward VI, brenin Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 12 Hydref 1537 Palas Hampton Court |
Bu farw | 6 Gorffennaf 1553 o diciâu Greenwich |
Swydd | teyrn Lloegr, teyrn Iwerddon, Tywysog Cymru |
Tad | Harri VIII |
Mam | Jane Seymour |
Llinach | Tuduriaid |
llofnod | |
Yn ystod ei deyrnasiad wynebodd Edward broblemau economaidd ac anfodlonrwydd cymdeithasol, a gyrhaeddodd benllanw yn 1549 pan fu terfysg a gwrthryfel. Profodd rhyfel gyda’r Alban yn gostus yn ariannol, ac er i’r rhyfel fod yn llwyddiannus ar y dechrau, bu’n rhaid i fyddin Lloegr dynnu'n ôl o’r wlad er mwyn sicrhau heddwch. Trowyd Eglwys Loegr yn Eglwys fwy Protestannaidd ei hedrychiad adeg teyrnasiad Edward, gan fod llawer o ddiddordeb gan y Brenin mewn materion crefyddol.[4] Yn ystod teyrnasiad Edward cafodd y ffydd Brotestannaidd ei sefydlu yn fwy cadarn yn Lloegr, gyda newidiadau crefyddol yn cael eu gweithredu i sicrhau hyn - er enghraifft, diddymu statws di-briod y glerigaeth, newidiadau i’r Cymun a chyflwyno gwasanaethau yn y Saesneg.
Yn 1553, pan oedd Edward yn 15 mlwydd oed, cafodd afiechyd difrifol a olygai y byddai ei fywyd yn fyrhoedlog. Yn sgil hynny, trefnodd y Cyngor Rhaglywiaeth bod cynllun o’r enw ‘Dyfais ar gyfer yr Olyniaeth’ yn cael ei lunio a fyddai’n sicrhau nad oedd y deyrnas yn dychwelyd i Gatholigiaeth. Enwebodd Edward ei gyfnither cyntaf, y Fonesig Jane Grey, fel ei etifedd, ac anwybyddwyd hawliau ei hanner chwiorydd, Mari ac Elisabeth. Cafodd y penderfyniad dadleuol hwn ei gwestiynu ar ôl marwolaeth Edward, a chafodd Jane ei diorseddu gan Mari wedi i Jane fod ar yr orsedd am naw diwrnod. Yn ystod teyrnasiad Mari, cafodd diwygiadau Protestannaidd Edward eu dadwneud a sefydlwyd y ffydd Gatholig yn ei theyrnas. Er hynny, bu diwygiadau Protestannaidd Edward yn sail i Gytundeb Crefyddol Elisabeth a gyflwynwyd ganddi ar ei hesgyniad hithau i’r orsedd yn 1559, yn dilyn marwolaeth Mari.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Loach, Jennifer. (1999). Edward VI. Bernard, G. W., Williams, Penry. New Haven: Yale University Press. ISBN 0-300-07992-3. OCLC 41754171.
- ↑ "5 Fascinating Facts about King Henry VIII's son, King Edward VI". History is Now Magazine, Podcasts, Blog and Books | Modern International and American history (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-07.
- ↑ MacCulloch, Diarmaid. (2002). The boy king : Edward VI and the Protestant Reformation. Berkeley: University of California Press. ISBN 0-520-23402-2. OCLC 49638794.
- ↑ MacCulloch, Diarmaid. (2002). The boy king: Edward VI and the Protestant Reformation. Berkeley: University of California Press. t. 8. ISBN 0-520-23402-2. OCLC 49638794.
Rhagflaenydd: Harri VIII |
Brenin Lloegr 28 Ionawr 1547 – 6 Gorffennaf 1553 |
Olynydd: Mari I |