Janey Godley
Digrifwr stand-yp, actores, awdur ac actifydd gwleidyddol o'r Alban oedd Janey Godley (ganwyd Jane Godley Currie; 20 Ionawr 1961 – 2 Tachwedd 2024). Dechreuodd ei gyrfa fel comediwr ym 1994, ac enillodd amryw o wobrau am ei chomedi yn y 2000au.
Janey Godley | |
---|---|
Ganwyd | Jane Godley Currie 20 Ionawr 1961 Glasgow |
Bu farw | 2 Tachwedd 2024 Glasgow |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, hunangofiannydd, digrifwr stand-yp, blogiwr |
Priod | Sean Storrie |
Plant | Ashley Storrie |
Gwefan | https://janeygodley.com/ |
Cafodd Godley ei geni yn Campsie, Dwyrain Swydd Dunbarton, [1] [2] yr ieuengaf o bedwar o blant a aned i Annie a Jim Currie. Cafodd ei magu ar Kenmore Street yn Shettleston, Glasgow, a mynychodd Academi Eastbank. Gadawodd Godley yr ysgol yn 16 oed heb unrhyw gymwysterau. [3] Roedd ei rhieni yn alcoholigion [4] [5]
Priododd Godley Sean Storrie ym 1980.[6] Roedd e'n aelod o deulu gangster o Glasgow. [7] [8] [9]
Bu farw Godley o ganser yr ofari yn Hosbis Tywysog a Thywysoges Cymru yn Glasgow, ar 2 Tachwedd 2024, yn 63 oed. Talodd cyn Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon deyrnged iddi.[10]
Llyfrau
golygu- Handstands in the Dark (2005)
- Frank Get the Door! (2020)
- Nothing Left Unsaid (2022)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Healy, Rachael (2 Tachwedd 2024). "Scottish comedian Janey Godley dies aged 63". The Observer (yn Saesneg). ISSN 0029-7712. Cyrchwyd 2 November 2024.
- ↑ "Janey Godley, comedian reviews". Chortle: The UK Comedy Guide (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Tachwedd 2024.
- ↑ Brooks, Libby (19 Awst 2019). "'I joked about my life – Ma's murder, child abuse, gangsters': how Janey Godley became the queen of comedy". The Guardian. Cyrchwyd 21 Awst 2020.
- ↑ "Next to Godley". The Scotsman (yn Saesneg). 15 Gorffennaf 2006. Cyrchwyd 25 Awst 2021.
- ↑ Wilson, Louise (5 Mai 2021). "Black comedy: Interview with Janey Godley". Holyrood (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Awst 2021.
- ↑ "'I'm rebelling against my upbringing': Ashley Storrie on being the daughter of a comedy legend". HeraldScotland. 30 Gorffennaf 2017.
- ↑ "Mum was murdered and my in-laws are gangsters".
- ↑ Donaldson, Brian (8 June 2016). "Interview: Ashley Storrie – 'I have been known to go a bit Tonto'". The List (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Medi 2024.
- ↑ Hinds, Alice (30 Mai 2021). "Comedian Ashley Storrie on why playing an autistic young woman in her first dramatic role has helped her open up about her own diagnosis". The Sunday Post. Cyrchwyd 25 Awst 2021.
- ↑ "Scottish comedian Janey Godley dies aged 63". Sky News (yn Saesneg). 2 Tachwedd 2024. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2024.