Janie Allan
Ffeminist o'r Alban oedd Janie Allan (28 Mawrth 1868 - 29 Ebrill 1968) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am noddi'r mudiad swffragét ar ddechrau'r 20g.[1]
Janie Allan | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mawrth 1868 Glasgow |
Bu farw | 29 Ebrill 1968 Spean Bridge |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Galwedigaeth | golygydd papur newydd, swffragét, newyddiadurwr |
Magwraeth
golyguFe'i ganed yn Glasgow, yr Alban i deulu cefnog ar 28 Mawrth 1868. Ei theulu oedd perchnogion y cwmni llongau Allan Line a gychwynwyd gan ei thaid Alexander Allan. Y pumed mab oedd ei thad, ac erbyn iddo ddod yn gyfrifol am y gwaith llongau yn Glasgow, roedd gan y cwmni lawer o longau, swyddfeydd yn Lerpwl a Montreal ac wedi llwyddo i gipio cytundeb y Royal Mail oddi wrth gwmni Cunard.[2]
Yn debyg i lawer o'i theulu, roedd gan Allan safbwyntiau gwleidyddol sosialaidd ac yn helpu pobl dlawd y ddinas. Roedd yn aelod cynnar o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP), a golygodd golofn a oedd yn ymwneud ag etholfraint i fenywod ym mhapur newydd sosialaidd Forward.[1] [3]
Y mudiad swffragét
golyguYm mis Mai 1902, roedd Allan yn allweddol yn y gwaith o ail-sefydlu cangen Glasgow o Gymdeithas Bleidlais y Menywod (National Society for Women's Suffrage) dan yr enw: Cymdeithas Glasgow a Gorllewin yr Alban ar gyfer Pleidlais Menywod (GWSAWS) neu yn yr iaith wreiddiol: Glasgow and West of Scotland Association for Women's Suffrage. Roedd hefyd yn aelod o'i bwyllgor gweithredol. Roedd yn gefnogwr ariannol sylweddol, ac fel un o is-lywyddion GWSAWS dechreuodd swydd ar bwyllgor Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Pleidlais i Fenywod (NUWSS) neu National Union of Women's Suffrage Societies (NUWSS) yn 1903, er mwyn cynrychioli'r gymdeithas.[4]
Yn 1907, pryderodd nad oedd y GWSAWS (a'u polisi di-drais) mor effeithiol ag y dylai fod, ymddiswyddodd Allan o'u pwyllgor gweithredol ac ymunodd â WSPU, er iddi gynnal ei thanysgrifiad i GWSAWS tan 1909. Dros yr ychydig flynyddoedd dilynol, darparodd Allan o leiaf £350 (cyfwerth ag oddeutu £35,100 yn 2018) mewn arian i WSPU, yn ogystal â rhoi rhywfaint o arian ar gyfer Cynghrair Rhyddid Menywod (Women's Freedom League WFL) yn dilyn eu gwahanu oddi wrth WSPU. Yn ogystal â'i chyfraniadau ariannol, roedd Allan yn gyfranogwr gweithredol, yn ymgyrchydd milwriaethus ar ran y WSPU.
Carchar a bwydo gorfodol
golyguYn gynnar ym Mawrth 1912, ynghyd â thros 100 o bobl eraill, cymerodd Allan ran mewn protest torri ffenestri yng nghanol Llundain. Cuddiodd y merched gerrig a morthwylion o dan eu sgertiau ac, unwaith y byddent yn eu lle, aethant ati i ddinistrio ffenestri siopau Regent Street, Oxford Street, a'r cyffiniau. Yna, aroshodd y merched yn aros yn amyneddgar ac yn dawel i'r heddlu gyrraedd. Tra bod yr heddlu wedi troi eu sylw i rywle arall, llwyddodd Emmeline Pankhurst a thair arall i fentro'n ddigon agos at 10 Downing Street i daflu cerrig drwy bedair o'i ffenestri. Yn dilyn hynny, ynghyd â llawer o'i chymdeithion, cafodd Allan ei harestio, ei rhoi ar brawf a'i ddedfrydu i bedwar mis yng Ngharchar Holloway.[4]
Anrhydeddau
golygu