Jap
Mae Jap[1] neu Siap yn derm sarhaus am berson o Japan. Yn achlysurol, cyfeirir ato fel y "gair J". Yn Saesneg, mae'n deillio o ffurf fyrrach o'r gair "Japan" neu "Japanese" (neu "Japan" a "Japaneaidd" yn Gymraeg). Cyfystyr llai cyffredin o'r gair yw "nipp", ffurf fyrrach ar "Nippon", yr hen ynganiad "Nihon", yr enw ar Japan yn Japaneg. Nid oedd y gair yn wreiddiol yn sarhaus, ond ers yr ymosodiad ar Pearl Harbor, mae wedi dod yn slur ethnig.[2] Oherwydd y cynnydd mewn teimlad gwrth-Japaneaid yn yr Ail Ryfel Byd. Defnyddiwyd y gair ar arwyddion hiliol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn fwyaf arbennig ar arwyddion yn darllen "no Japs allowed" ("Dim Japiau yn cael ei ganiatáu").
Cyd-destun Cymreig
golyguEr na ddefnyddir y term dirmygu, "Jap" na chwaith awgrym o sarhâd bwriadol, mae cân adnabyddus Asso Asso Yogoshi gan y perfformiwr poblogaidd Max Boyce yn cynnwys geiriau a sentiment na fyddai'n cael eu canu heddiw. Fel dywedodd erthygl yn y Wales Online yn 2016, "As a product of the 1970s, it is not a song you would expect to be written today." Ysgrifennwyd y gân i gyd-fynd ag ymweliad tîm rygbi Siapan â Chymru yn 1973 a achosodd cryn dipyn o ddiddordeb ac ewyllus da, ond hefyd, beth efallai byddai heddiw yn cael ei weld yn hwyl nawddoglyd.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://geiriaduracademi.org/
- ↑ Paul Fussell, Wartime: Understanding and Behavior in the Second World War, Oxford University Press, 1989, p. 117.
- ↑ "The inside story of a famous Max Boyce tribute song to the Japan rugby team which would never have been written today". Wales Online. 18 Tachwedd 2016.