Jean-Joseph Sanfourche
Arlunydd, bardd, dylunydd a cherflunydd o Ffrainc oedd Jean-Joseph Sanfourche, a adweinir hefyd fel Sanfourche (25 Mehefin 1929 – 13 Mawrth 2010). Roedd yn aelod o grŵp o artistiaid y gelwid eu gwaith yn Art Brut ("celf amrwd").
Jean-Joseph Sanfourche | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mehefin 1929 Bordeaux |
Bu farw | 13 Mawrth 2010 Saint-Léonard-de-Noblat |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, cynllunydd |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
Ganwyd Sanfourche yn Bordeaux, yn fab i'r arlunydd Arthur Sanfourche. Cafodd ei arestio ym 1942 gyda'i deulu gan y Gestapo. Dienyddiwyd Arthur, aelod y Résistance, ym 1943.[1] Rhyddhawyd Jean-Joseph a'i fam a symudon nhw i Limoges, lle mynychodd Sanfourche ysgol alwedigaethol. Enillodd brofiad mewn cerflunio a gwaith coed.
Ar ôl graddio o'r ysgol uwchradd, astudiodd gyfrifeg. Symudodd i Baris, lle gweithiodd fel cyfarwyddwr technegol ffatri tecstilau ac yna fel swyddog yn y Weinyddiaeth Materion Tramor. Ymddiswyddodd o'r swydd hon oherwydd salwch difrifol gyda dallineb mewn un llygad. Ar ôl iddo ddychwelyd i Limoge gweithiodd fel peintiwr amryddawn, cerflunydd, arlunydd graffig a bardd.
Yn 1992 fe'i urddwyd yn Farchog y Légion d'honneur gan François Mitterrand.
Gellir gweld ei weithiau mewn nifer o amgueddfeydd, gan gynnwys y Collection de l’Art Brut (Lausanne), Musée d'Art Moderne (Paris) a’r Palais des Beaux-Arts (Brwsel).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "SANFOURCHE Arthur, Jean, Joseph", Gwefan Les Fusillés 1940–1944; adalwyd 6 Chwefror 2021