Jean Boht
Roedd Jean Boht (née Dance; 6 Mawrth 1932 - 12 Medi 2023), yn actores o Loegr sy'n fwyaf enwog am rôl fel Nellie Boswell yn y comedi sefyllfa Bread, gan Carla Lane. Roedd hi'n aros gyda'r sioe am ei chyfnod cyfan o saith cyfres rhwn 1986 a 1991.
Jean Boht | |
---|---|
Ganwyd | Jean Dance 6 Mawrth 1932 Bebington |
Bu farw | 12 Medi 2023 o clefyd Alzheimer Northwood |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor llwyfan |
Priod | Carl Davis |
Plant | Hannah Davis |
Cafodd ei geni yn Bebington, Sir Gaer, yn ferch i'r pianydd Edna "Teddy" Dance. Cafodd ei addysg i yn Ysgol Ramadeg i Ferched Cilgwri . dechreuodd ei gyrfa fel actores theatr yn Lerpwl
Roedd hi'n gweithio mewn nifer o Theatrau’r West End gan gynnwys y Royal National Theatre a’r Bristol Old Vic.[1] Ymddangosodd yn rhaglenni teledu felSoftly, Softly (1971), Some Mothers Do 'Ave' Em (1978), Grange Hill (1978), Last of the Summer Wine (1978), Boys from the Blackstuff (1982), Scully (1984) a Casualty.
Daeth ei phriodas gyntaf â William Boht i ben mewn ysgariad. Priododd y cerddor Americanaidd-Brydeinig Carl Davis ar 28 Rhagfyr 1970.[2] Roedd ganddynt ddwy ferch, y gwneuthurwyr ffilm Hannah Louise (ganwyd 1972) a Jessie Jo (ganwyd 1974). [2] Bu farw Davis ar 3 Awst 2023. [3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Jean Boht: Bread actress dies at 91". BBC News. Cyrchwyd 13 Medi 2023.
- ↑ 2.0 2.1 "Jean Boht". FullMovieReview.com. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Awst 2011. Cyrchwyd 19 Ebrill 2011.
- ↑ https://www.fabermusic.com/news/carl-davis-cbe-1936-202303082023